Mae’r Grŵp yn cynnwys gweithwyr creadigol ar draws Caerdydd o sectorau fel pensaernïaeth, dawnsio, dylunio, marchnata, ffilm a cherddoriaeth. Bydd yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn i fyfyrio ar waith Caerdydd Creadigol a rhoi cyngor yn ei gylch.
Dyma aelodau’r Grŵp Cynghori: Alexia J.A Barrett, Amanda Spence, Bethan Elfyn, Bethan Gordon, Dylan Huw, Dr Francesca Sobande, Gareth I. Davies, Isobel Mary Smathers, Mair Jones, Richie Turner a Dr Thania Acarón.