Dawns heb ffiniau - it will come later, gwaith cydweithredol gan chwe artist rhyngwladol

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 23 September 2019

Bydd it will come later, y pedwerydd cynhyrchiad dawns rhyngddiwylliannol gan iCoDaCo (Cydweithfa Dawns Gyfoes Ryngwladol), yn gorffen ei daith ryngwladol yng Nghymru a Lloegr yr hydref hwn. Mae it will come later, a ddatblygwyd gan chwe artist dawns enwog ar draws pum gwlad, eisoes wedi cael ei berfformio yn Sweden, Hwngari, Gwlad Pwyl a Hong Kong, ac nawr mae cwmni Gwyn Emberton Dance (GED) o Gymru yn dod â'r daith i'r DU. Mae un o artistiaid dawns mwyaf blaenllaw Cymru, Eddie Ladd, yn goreograffydd a pherfformiwr yn y darn, sy'n ymateb i ansefydlogrwydd gwleidyddiaeth fodern, a'r angen i wthio am ddemocratiaeth a chyfleoedd i gydweithio.

Gan weithio ar draws ffiniau, datblygwyd it will come later drwy gyfres o gyfnodau preswyl ym mhob un o'r gwledydd lletyol yn ystod 2018, wrth archwilio'r thema gychwynnol 'trawsnewid' gyda'r artistiaid a'u cymunedau lleol. Gydag artistiaid o Gymru, Sweden, Hwngari, Gwlad Pwyl a Hong Kong, fe wnaeth cyflwr newidiol gwleidyddiaeth y DU, Ewrop, Dwyrain Ewrop a Hong Kong gynnau papur tanio'r cyfnewid rhyngddynt. Mae'r broses gydweithredol wedi arwain at ddarn perthnasol a chyfoes a oedd yn arbennig o berthnasol yn Hong Kong ym mis Gorffennaf, yng nghyd-destun y protestiadau gwleidyddol parhaus o blaid diwygio democrataidd.

Mae it will come later yn cael ei berfformio o gwmpas set sy'n troi, gyda goleuni sy'n codi a gostwng wrth i'r chwe dawnsiwr wthio yn erbyn ei gilydd mewn llif trawsnewidiol parhaus, sy'n cynrychioli'r ymdrech sydd ei hangen i barhau i weithio dros ddemocratiaeth, cydraddoldeb ac unigolrwydd. Mae'r gwaith dawns cyfoes elfennol hwn yn ficrocosm o gydweithio a chyd-drafod yn yr oes gythryblus sydd ohoni. Drwy'r prosiect i gyd fe wnaeth pob artist, gan gynnwys Eddie Ladd o Gymru, ddod â safbwyntiau unigryw i'r ystafell ynghylch grym trawsnewid.

Dywedodd Eddie Ladd, o Aberteifi: "Mae bod yn rhan o'r prosiect hwn wedi bod yn bleser ac yn boen ac yn her ac yn fendith. Mewn gwirionedd, ac yn ystrydebol, fe wnes i ddysgu gan bawb i dderbyn a chymryd cam ymlaen yn hytrach na phrofi pob syniad nes iddo gael ei ddinistrio. Ces i fy synnu gan y coreograffïau a grëwyd gan y chwech ohonom – fyddwn i ddim wedi gallu eu dychmygu cyn i ni gwrdd. Mae'r cwmni'n gymdeithas ar ffurf fechan. Ac mae'r gwaith yn dangos ein hymdrechion i aros gyda'n gilydd a symud gyda'n gilydd.

Coreograffwyr a pherfformwyr iCoDaCo yn 2018/2020 yw: Lee Brummer (Sweden), Mui Cheuk-Yin (Hong Kong), Eddie Ladd (Cymru/DU), Joseph Lee (Hong Kong), Weronika Pelczyńska (Gwlad Pwyl) ac Imre Vass (Hwngari). Cafodd pob un ei ddewis fel artist blaenllaw yn ei wlad ei hun ac ar lefel ryngwladol, ac mae gan Mui Cheuk-yin dros 30 mlynedd o brofiad yn rheng flaen y byd dawnsio yn Hong Kong.

Mae taith yr hydref yng Nghymru a Lloegr wedi'i chefnogi gan Raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd, Cyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Sweden, ac wedi'i chynhyrchu gan gwmni Gwyn Emberton Dance o Gymru, sydd wedi cefnogi'r prosiect yn rhyngwladol fel sefydliad partner iCoDaCo ers 2014. Mae it will come later hefyd yn rhan o arddangosfa Dyma Gymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru yng Ngŵyl Ymylol Caeredin 2019.

Yn ogystal â pherfformiadau'r daith yr hydref, bydd darlithoedd cyhoeddus, gweithdai mewn Prifysgolion a Cholegau, a phenwythnos o gyfnewid creadigol rhwng artistiaid rhyngwladol iCoDaCo a chymuned perfformio Caerdydd ym Mhrifysgol De Cymru.

Y tu hwnt i berfformiadau o it will come later gan iCoDaCo yn 2018/2020, bydd llyfr yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2020. Bydd y llyfr yn cynnwys ffotograffiaeth, erthyglau ysgrifenedig a myfyrdodau personol gan yr artistiaid rhyngwladol, ac yn gyfle i bobl archwilio a thrafod y gwaith – a'i broses gydweithredol ryngddiwylliannol unigryw – am flynyddoedd i ddod.

Bydd it will come later gan iCoDaCo yn agor yn Chapter, Caerdydd ar 24 Medi.
Yna, bydd y gwaith yn mynd ar daith i Fryste, Aberystwyth, Trefaldwyn a Chaerfyrddin tan 4 Hydref.

I gael rhagor o wybodaeth ac i ddilyn prosiect iCoDaCo 2018/2020 ac it will come later, ewch i icodaco.com/blog
 

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event