Pan symudodd y Printhaus i'w lleoliad cyntaf ar Ffordd Llandaf yn 2008 - hen olchdy'n dyddio'n ôl i'r 1800au - roedd y lle wedi mynd â'i ben iddo. Ers hynny mae Printhaus wedi creu canolfan greadigol gadarn yn Nhreganna, gan ddarparu gweithdai print, gwasanaethau printio teilwredig, stiwdios i artistiaid a digwyddiadau ar gyfer cymunedau lleol Caerdydd a thu hwnt.
Syniad y triawd creadigol Rob Trigg, Tom Whitehead a Jude Lau oedd sefydlu'r Printhaus ar ôl iddyn nhw weithio gyda'i gilydd mewn stiwdio printio arall yng Nghaerdydd, Visible Art Screenprinters. Fe blannwyd yr hedyn am Printhaus trwy eu profiadau o gyflwyno graddedigion i stiwdio printio broffesiynol a rhoi'r cyfle iddyn nhw weithio mewn man creadigol proffesiynol.
Roedd un o'r sylfaenwyr, Jude Lau, yn hel atgofion o ddyddiau cynnar sefydlu'r Printhaus: "Roedden ni'n croesawu artistiaid o hyd. Mae'n rhan mor annatod o unrhyw gymuned... gweithdy printio. Ar yr un pryd roedden ni eisiau rhoi'r cyfle i bobl barhau i wneud gwaith, i ddysgu am y grefft, ond heb y pwysau o fod mewn stiwdio fasnachol."
Mae Printhaus wedi profi droeon ei fod yn ysbrydoliaeth ac adnodd angenrheidiol ar gyfer y gymuned leol. Mae'r gydweithfa yn parhau i roi'r lle perffaith i artistiaid newydd a rhai sydd wedi'u sefydlu ers amser, sy'n gwneud Chapter yn lleoliad newydd delfrydol. Mae Chapter, fel Printhaus, wedi'i ymrwymo i gefnogi unigolion creadigol ac artistiaid y gymuned leol. Mae'r ddau fudiad yn rhannu gweledigaeth o gadw cymuned greadigol Treganna'n fyw.
Bydd Printhaus wedi'i leoli ar draws dwy ran o Chapter: Y Crochendy ar lawr gwaelod yr adeilad a'r Ystafell Werdd ar y llawr cyntaf. Bydd Artistiaid Preswyl presennol Printhaus hefyd yn symud i Dŷ Marchnad Chapter, gyda'r gobaith o ddod yn denantiaid creadigol hirdymor.
Er eu bod yn drist i fod yn ffarwelio â'u cartref gwreiddiol, mae Printhaus wrth eu bodd gyda'r cyfleoedd y bydd yn dod yn sgil symud.
Dywedodd Jude: "Anodd iawn fyddai cael hyd i rywle sy’n agosach i gartref na Chapter.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda'n gilydd i ddatblygu gweithdai a digwyddiadau newydd a chynhwysol - a chyrraedd cynulleidfaoedd mwy ac amrywiol.
Mae hon yn adeg berffaith i groesawu Printhaus i Chapter, wrth iddyn nhw gynllunio i ehangu cyfleoedd ar gyfer y gymuned greadigol trwy ddatblygu eu hadeiladau yn y dyfodol agos.
Dywedodd Hannah Firth, Cyfarwyddwr Rhaglennu yn Chapter: "Mae Chapter yn edrych ymlaen yn arw at groesawu Printhaus ar adeg pan rydyn ni'n am ehangu cyfleoedd ar gyfer cymuned greadigol Caerdydd a De Cymru trwy ddatblygu ein prif safle. Rydyn ni wedi penodi penseiri Jan Kattein er mwyn edrych ar sut, yn y dyfodol agos, gallwn ehangu’r hyn rydym yn ei gynnig er mwyn rhoi mannau deinamig i gysylltu ymarferwyr, busnesau creadigol a’r gymuned leol gyda'r rhaglen artistig yma.
Edrychwn ymlaen at wahodd Printhaus a'r sector ehangach i'r trafodaethau hynny a byddwn ni'n rhannu canlyniadau ein hymchwil yn yr Hydref."
Mae Printhaus yn cynnal Ymgyrch Torfoli er mwyn codi £15k tuag at brynu cyfleusterau printio newydd ar gyfer y mannau newydd. Maen nhw wedi derbyn cefnogaeth gan fusnesau lleol ac unigolion. Bydd y cyfle i gyfrannu at yr ymgyrch torfoli yn dod i ben ar ddydd Llun (5 Awst) am 8.25am. Cewch wybod mwy am hynny yma.
Ar ddydd Sadwrn (3 Awst), mi fydd St Canna's Ale House yn Nhreganna yn cynnal digwyddiad i godi arian ar gyfer yr achos o 1pm. Gyda digwyddiadau a gweithdai printio, cerddoriaeth fyw a lluniaeth yn parhau trwy'r min nos. Mae mynediad am ddim ac anogir cyfraniadau.
Bydd y Printhaus yn symud i Chapter trwy gydol mis Awst ac yn parhau gyda'r rhaglen lawn o ddigwyddiadau, gweithdai a gweithgareddau o ddydd Llun 2 Medi 2019.