Mentora Gyrfaol Prifysgol Caerdydd
Mae rhaglen Mentora Gyrfaol Prifysgol Caerdydd yn gyfle i fentora myfyriwr sydd eisiau gwybod rhagor am yrfaoedd a swyddi yn eich sector neu eich diwydiant. Mae’r rhaglen yn rhoi'r cyfle i'n myfyrwyr gael gwybodaeth werthfawr, cyngor a dealltwriaeth o sector neu ddiwydiant, datblygu eu rhwydwaith a meithrin hyder yn eu dewisiadau gyrfaol, a hynny gyda chymorth gweithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio yn eu dewis sector.