Lisa Tregale yw Cyfarwyddwr newydd Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 16 September 2019

Mae’r BBC wedi cyhoeddi mai Lisa Tregale yw Cyfarwyddwr newydd Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a bydd yn cychwyn ei swydd ym mis Ionawr. 

Mae Lisa yn bennaeth cynllun Participate, Cerddorfa Symffoni Bournemouth (BSO) ar hyn o bryd ac yn cael ei chydnabod ar draws y sector gerddorol fel llysgennad i’r celfyddydau ac arloeswr mewn addysg gerddorol, gynhwysol. Hi fydd cyfarwyddwr benywaidd cyntaf y gerddorfa.

Yn ogystal â chefnogi cyfeiriad strategol y BSO a’i ensemblau dros y chwe mlynedd diwetha’, mae Lisa wedi trawsffurfio ymgysylltiad y gerddorfa gyda chymunedau amrywiol ar draws y rhanbarth – gan gyflwyno cerddoriaeth glasurol i bobl o bob oed am y tro cyntaf.

Dywed Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru:

“Daw Lisa â chyfoeth o brofiad ac angerdd am gerddoriaeth a’i allu i ysbrydoli a chyffwrdd bywydau unigolion o bob cefndir. Rwy’n gwybod y bydd ei dealltwriaeth ddofn o arweinyddiaeth o fewn cerddorfa a’i gallu cynhenid i ddod â phobl ynghyd yn ei pharatoi yn wych ar gyfer yr her o arwain sefydliad mor llwyddiannus a bywiog.”

Dywed Lisa Tregale:

“Rwy’ wrth fy modd o gael ymgymryd â’r swydd gyffrous yma sydd wrth galon bywyd celfyddydol Cymru. Gyda’i swyddogaeth unigryw fel cerddorfa symffoni a cherddorfa darlledu, rwy’n edrych ymlaen at fod yn llais cryf dros y gerddorfa a’r corws yng Nghymru, gweddill y DU ac ymhellach.”

Dywed Alan Davey, Rheolwr BBC Radio 3:

“Mae Lisa yn arloeswr sydd wedi bod yn rhan ganolog o’r gwaith o drawsffurfio a chodi proffil y BSO dros y blynyddoedd diwethaf. Daw hi â mewnwelediad yn ogystal â thrylwyredd i’n gwaith – ac ymrwymiad llwyr i ragoriaeth artistig.

Mae Lisa wedi hyfforddi fel cantores ac i chwarae’r sacsoffon a hi oedd Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig cyntaf y South West Music School – canolfan hyfforddi ar gyfer cerddorion ifanc â gallu eithriadol. Yn y swydd hon, bu’n ganolog yn ffurfio strategaeth addysg gerddorol ar lefel Brydeinig.   

Mae Lisa hefyd wedi arddel swyddi megis asesydd i Gyngor Celfyddydau Lloegr a Sefydliad PRS, aelod bwrdd y British Arts Festival Association ac is-lywydd yr European Conference of Promoters of New Music. 

Yr wythnos ddiwethaf, bu i Gerddorfa  a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC gyhoeddi mai’r arweinydd Americanaidd 29ain oed, Ryan Bancroft yw’r Prif Arweinydd newydd.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event