Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru eisiau contractio Hwylusydd Celfyddydau sy’n Dod i’r Amlwg sydd ar ddechrau eu gyrfa i weithio ochr yn ochr ag Artistiaid Arweiniol 'Above & Beyond', prosiect hirdymor a ddarperir ym Mhenrhys (Rhondda Cynon Taf). Bydd y rôl wedi'i lleoli ym Mhenrhys, Rhondda Cynon Taf.
Cenhadaeth y prosiect yw trawsnewid y gymuned trwy weithgaredd diwylliannol er mwyn sicrhau newid cymdeithasol cadarnhaol ac i bobl Penrhys gael mwy o lais ac edrych tuag at ddyfodol cadarnhaol.
Mae'r rôl yn addas i berson ifanc o ardal RhCT sydd ar ddechrau eu gyrfa ac sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau cynnar o ran hwyluso gweithdai yn y celfyddydau. Rydym yn agored i gwrdd ag ymgeiswyr sydd â chefndir mewn drama, gwneud ffilmiau, ffotograffiaeth, dylunio, celf, cerddoriaeth, canu, dawnsio, ysgrifennu, gair llafar neu ffurfiau aml-gelfyddydol.
Bydd yr ymgeisydd yn cael ei gefnogi a'i fentora gan Artistiaid Arweiniol y prosiect, Sandra Harnisch-Lacey a Kyle Stead, a fydd yn datblygu eich hyder a'ch sgiliau cyflwyno.
Cyfanswm y ffi am y gweithgaredd hwn yw £4,500 a disgwylir y byddwch yn gweithio tua 30 diwrnod (ar gyfradd o £150 y dydd) yn ystod y cyfnod 1 Hydref 2024 i 1 Gorffennaf 2025.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan bobl sy'n byw neu'n gweithio yn ardal Penrhys neu RCT ehangach.