Mae Poetry Wales yn chwilio am Olygydd Cymraeg tan fis Rhagfyr 2024.
Cyfnodolyn a gyhoeddir deirgwaith y flwyddyn yw Poetry Wales. Mae'n cyhoeddi barddoniaeth gyfoes gan rai o'r beirdd mwyaf cyffrous o bedwar ban y byd. Yn 2025 byddwn yn dathlu trigain mlynedd o'r cyhoeddiad, a chyda chymorth Grant Cynulleidfaoedd Newydd Cyngor Llyfrau Cymru, mae’n bleser gennym gael cyhoeddi nifer o gyfleoedd cyfnod penodol i'n helpu i gynhyrchu rhifynnau cyntaf Cyfrol 60.
Rydym yn chwilio am Olygydd Cymraeg a all:
- Gyfieithu barddoniaeth o'r Gymraeg i Saesneg a barddoniaeth o Saesneg i'r Gymraeg
- Ysgrifennu ac/neu gomisiynu gwaith ar gyfer gwefan Poetry Wales
- Helpu i ddewis cerddi Cymraeg ar gyfer y rhifyn trigainmlwyddiant (Mawrth 2025)
- Cefnogi golygyddion y cylchgrawn a'r golygyddion adolygiadau, gan gynnwys cyfieithu rhywfaint o ddeunydd cyfathrebu os a/neu pan fo angen
Ein hymgeisydd delfrydol fydd rhywun sydd:
- Yn rhugl yn y Gymraeg ac yn Saesneg
- Â phrofiad o gyfieithu barddoniaeth ac / neu ryddiaith mewn modd creadigol
- Yn cwblhau gwaith o fewn terfynau amser
- Yn dda am ddatrys problemau
- Yn meddu ar ddealltwriaeth dda o'r gymuned o feirdd Cymraeg
- Â phrofiad bywyd o hiliaeth, ableddiaeth, trawsffobia, homoffobia ac/neu dlodi
Mae Poetry Wales bob amser yn agored i ystyried buddsoddi mewn rhywun a all ddangos potensial datblygu i ni yn y rôl hon, er efallai na fyddant yn gallu dangos pob un o’r meini prawf delfrydol a restrir uchod.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn sesiynau hyfforddi ar olygu a chynhyrchu cyfnodolion proffesiynol a golygu ymarferol.