Gŵyl Immersed! yn dychwelyd ar ddydd Iau, Ionawr 30 2020 yn y Tramshed, Caerdydd!

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 17 December 2019

Caerdydd: Mae cerddoriaeth yn ein DNA.

Mae’r ŵyl Immersed! yn dychwelyd ar ddydd Iau, Ionawr 30 202 yn y Tramshed, Caerdydd. Ar ôl llwyddiant y llynedd gyda Pete Doherty (o’r Libertines), mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Richard Ashcroft, Tom Grennan a Bad Sounds yn brif artistiaid yn yr ŵyl anhygoel hon eleni, a’r cyfan er mwyn codi arian i’r Teenage Cancer Trust.

Bydd cyfle i chi fwynhau 3 gofod perfformio, 27 band ac artistiaid, y cyfan mewn un lleoliad - wedi ei drefnu a’i gynllunio ar y cyd â Phrifysgol De Cymru.

Prif artist y digwyddiad yw’r canwr/cyfansoddwr amryddawn Richard Ashcroft, enillydd gwobr Ivor Novello. Y tro diwethaf iddo berfformio yng Nghaerdydd oedd yn y Motorpoint Arena, felly bydd y perfformiad hwn yn mwy agos atoch ac yn unigryw.

Daeth Tom Grennan i amlygrwydd gyda Chase & Status ar yr ‘hit’ anferthol “All Goes Wrong” ac ers hynny daeth yn adnabyddus am ei ddawn cyfansoddi a’i swagro ar lwyfan. Ar ôl taith lwyddiannus dros y DU yn hyrwyddo ei albwm ‘Lighting Matches’, dyma gyfle i weld seren newydd cyn iddo berfformio mewn arenas yn ei sioe fyw gyntaf yn 2020.

Bydd Bad Sounds, alcemyddion y byd pop a ffefrynnau’r wasg gerddorol yn chwarae rhai o ‘recordiau poetha’r byd “ (yn ôl Annie Mac, Radio One) yn Immersed! i hyrwyddo eu casgliad newydd “Escaping From A Violent Time”, a fydd yn cael ei ryddhau ond ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad.

Yn cefnogi’r tri artist anhygoel hyn bydd Year of the Dog, Rosehip Teahouse, Clwb Fuzz, Bloom! a Nightlives, y cyfan wedi ei drefnu gan Minty’s Cardiff Gig Guide.

Ar yr ail lwyfan bydd cyfle i weld doniau rhyfeddol Caerdydd – enillwyr Gwobr Gerddoriaeth Cymru Adwaith, terfysgwyr gitâr Al Moses a Bandicoot gyda chefnogaeth gan artistiaid fel – French Alps Tiger, Versify, Shlug, Blackelvis, Church Place, Dan Ham a Suleiman Atta. Bydd y noson yn gorffen gyda set DJ gan arwr lleol ac un o ffefrynnau Jools Holland, Boy Azooga.

Ar y llwyfan olaf bydd Sonny Winnebago, Mari Mathias, Yasmine and the Euphoria, hefyd perfformiadau unigol gan Philip and the Reindeer, Carlen, Otto, Foxxglove ac Elina Lee.

Mae Gŵyl Immersed! ar ddydd Iau, 30 Ionawr 2020 yn y Cardiff Tramshed.

· Tocynnau £30 (myfyrwyr £20), ar gael o:

· www.immersedfestival.co.uk

· E-bost Immersed! Festival

· https://www.eventbrite.co.uk/e/immersed-2020-tickets-82862276299

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event