Gŵyl Fwrlésg Cymru

22/08/2024 - 20:30
CHAPTER
Profile picture for user WalesBurlesqueFestival

Postiwyd gan: WalesBurlesque…

info@walesburlesquefestival.com

Mae FooFoo Labelle a Chlwb Cabare Caerdydd yn cynnal pedair sioe a gweithdai anhygoel na ddylid eu colli, mewn dathliad disglair o fwrlésg.  Mwynhewch ddoniau sêr ac eiconau’r dyfodol ochr yn ochr â rhai o artistiaid cabare a bwrlésg mwyaf y DU. Gwisgwch eich gorau, bachwch ddiod, a dewch i gael eich cludo i fyd sy’n pefrio o glamor, comedi a strip-bryfocio.

Mae Clwb Cabare Caerdydd wedi bod yn rhan annatod o sin Celfyddydau Caerdydd ers 2007. O dan arweiniad y FooFoo Labelle lliwgar, mae'r gymuned ryfeddol hon o ddawnswyr a pherfformwyr lleol wedi diddanu mewn dros 250 o sioeau cabare poblogaidd amrywiol. Mae ethos y clwb yn hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol, magu hyder, positifrwydd corff a datblygu doniau, a gwelir ei raddedigion ar lwyfannau cabare ledled y wlad.

Er mwyn gweld yr amserlen lawn ar gyfer Gŵyl Fwrlésg Cymru, gan gynnwys sioeau, gweithdai a mwy, ewch i: https://walesburlesquefestival.com/

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event