Dylunydd Graffeg

Cyflog
£25,398
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
11.08.2024
Profile picture for user Cardiff Students Union

Postiwyd gan: Cardiff Studen…

Dyddiad: 18 July 2024

Mae cyfathrebu â myfyrwyr wrth galon yr hyn a wnawn yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd, ac rydym o hyd yn edrych am ffyrdd newydd ac arloesol o wneud hyn mewn modd effeithiol. Os ydych yn angerddol dros bob agwedd o ddylunio graffeg, ac mae gennych ddiddordeb gweithio gyda chynulleidfa ifanc ac amrywiol, efallai taw dyma’r rôl i chi. Rydym yn edrych i recriwtio Dylunydd Graffeg cyfeillgar a brwdfrydig fel rhan o’n tîm Marchnata a Chyfathrebu.

Beth fyddwch yn ei wneud

Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Dirprwy Bennaeth Marchnata a Chyfathrebu i ddarparu gwasanaeth dylunio ar gyfer y sefydliad. Byddwch yn gyfrifol am bob maes o ddylunio graffeg gan gynnwys: cysyniadu a gweithredu datrysiadau dylunio sy’n cwrdd â strategaethau marchnata o’r syniad gwreiddiol i gwblhau; datblygu dyluniadau ar gyfer print a digidol; arddangos gwybodaeth arbenigol o dechnegau a dulliau dylunio graffeg; ac arddangos sgiliau ymgysylltu â chleientiaid o safon uchel.

Mae perthnasoedd yn bwysig iawn i waith y tîm Marchnata a Chyfathrebu, felly mae’r gallu i gyfathrebu gydag amrywiaeth o bobl o fewn y sefydliad ac yn allanol yn hanfodol.

Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano

Mae’r tîm Marchnata a Chyfathrebu yn le prysur a chyffrous i weithio, felly bydd angen i chi fod yn gyfforddus delio gydag amrywiaeth o brosiectau a chynllunio eich amser. Mae sylw at fanylder yn bwysig iawn, ac rydym yn edrych am rywun gyda sgiliau creadigrwydd cryf, ynghyd â dealltwriaeth o ddylunio, gosod, a theipograffeg. Bwysicaf oll, bydd angen i chi fod yn rhywun sydd o hyd yn anelu am ragoriaeth. Rydym yn falch iawn o’r gwaith rydym yn ei wneud ac am i chi deimlo’r un ffordd.

Beth sydd ynddo i chi?

Bod yn rhan o dîm deinameg a chreadigol sy’n rhan o bopeth mae’r sefydliad yn ei wneud a’r cyffro o weld eich gwaith caled yn cael ei gyhoeddi, printio, neu rannu pob wythnos.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event