Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (RWCMD) yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru. Mae’n darparu hyfforddiant arloesol sy’n seiliedig ar berfformiad i dros 800 o’r actorion, cerddorion, technegwyr llwyfan, dylunwyr golygfeydd a rheolwyr celfyddydau mwyaf talentog o dros 40 o wledydd. Mae hefyd yn un o leoliadau celfyddydol mwyaf poblogaidd Caerdydd, sy’n cynnal dros 500 o berfformiadau cyhoeddus bob blwyddyn. Mae wedi'i leoli yn yr adeilad trawiadol yng nghanol Caerdydd, gyda pharcdir trefol y tu ôl iddo, sydd dim ond 5 munud ar droed i ganol y ddinas. Mae ei enw da yn seiliedig ar ragoriaeth ac mae’n denu’r doniau a’r digwyddiadau gorau.
Bydd y Dirprwy Reolwr Rhaglenni Digwyddiadau Llogi yn chwarae rhan bwysig yn y tîm sy’n hyrwyddo, yn sicrhau, yn cynllunio ac yn rheoli rhaglen flynyddol gyffrous a datblygiadol o ddigwyddiadau llogi. Gan gydweithio’n agos gyda thimau technoleg, blaen tŷ, marchnata ac arlwyo proffesiynol y Coleg, bydd deiliad y swydd yn darparu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys perfformiadau, cyngherddau, seremonïau gwobrwyo, cynadleddau, derbyniadau, ysgolion haf, digwyddiadau proffil uchel, ymweliadau arbennig a dathliadau preifat. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cefnogi Rheolwr Blaen Tŷ’r Coleg i recriwtio, hyfforddi a threfnu Cynorthwywyr Croesawu’r Coleg a, gyda’i gilydd, yn darparu lefelau rhagorol o ofal cwsmer i’n holl gynulleidfaoedd, ymwelwyr, gwesteion a chleientiaid.
Mae hon yn swydd amser llawn sy’n cynnwys gweithio rhai oriau anghymdeithasol. I ddechrau, bydd y swydd hon yn cael ei chynnal fel swydd tymor penodol am flwyddyn gyda’r bwriad o’i hymestyn.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, pobl sy’n ystyried eu hunain yn anabl, yn niwroamrywiol ac yn drawsryweddol, ac unigolion sy’n siarad Cymraeg, yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn. Mae’r Coleg wedi ymrwymo i’w Strategaeth y Gymraeg a’i Diwylliant a bydd yn cynnig cymorth a hyfforddiant i'r ymgeisydd llwyddiannus i ddysgu Cymraeg.
Rydym yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol a hawl i wyliau blynyddol hael. Darganfyddwch fanteision gweithio gyda ni: https://tinyurl.com/PSSynCBCDC
Os byddwch chi’n ymgeisydd llwyddiannus, a’r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Coleg, byddwch chi'n cael eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, sef is-gwmni sy’n eiddo’n llwyr i Brifysgol De Cymru ac sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a’r Coleg. Os ydych chi’n ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, cysylltwch â hradviser@southwales.ac.uk.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Janet.Smith@rwcmd.ac.uk, Rheolwr Lleoliadau.