Dewch i gwrdd â'n intern cyfathrebu: Ffion

Yr haf hwn, mae Caerdydd Creadigol yn falch iawn o gael cwmni intern cyfathrebu Ffion Evans, a fydd yn gweithio’n agos gyda ni i wella ein gweithgarwch ymgysylltu â’r Gymraeg. Mae Ffion yn ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd a bydd yn canolbwyntio’n bennaf ar ein hymgysylltiad â’r Eisteddfod Genedlaethol, a gynhelir ym Mhontypridd fis Awst eleni. Darganfyddwch mwy am Ffion a’i gwaith gyda Chaerdydd Creadigol.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 18 July 2024

Ffion Evans - Intern Cyfathrebu

Picture of Ffion standing in front of tall buildings in London

Pwy wyt ti a beth yw dy gefndir? 

Shwmae! Fy enw i yw Ffion ac rwy’n fyfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth. Rwy’ newydd orffen fy ail flwyddyn ac rwy’n edrych ymlaen at fod yn intern gyda Caerdydd Creadigol dros yr wythnosau nesaf! Mae gen i angerdd am y sector cyfryngau, am newyddiaduraeth yn benodol, gydag awydd i gyflwyno straeon sy'n effeithiol ac sy'n codi ymwybyddiaeth i gynulleidfaoedd. Mae fy nghwrs presennol a phrofiadau gwaith wedi fy ngalluogi i ysgrifennu amrywiaeth o wahanol ddarnau creadigol, megis ysgrifennu erthyglau newyddion, datganiadau i'r wasg, cynnwys ar gyfer podlediadau a phostiadau cyfryngau cymdeithasol. Mae'r rhain i gyd yn sgiliau rwy'n gyffrous i ddod â i'r interniaeth hon! Mae gen i brofiad ym maes cynhyrchu teledu hefyd, ar ôl gwneud rhywfaint o brofiad gwaith gydag ITV Cymru Wales a Boom Cymru yn gynharach eleni. 

Mae gen i ddiddordeb mewn sut mae technegau marchnata gwahanol yn cyrraedd cynulleidfaoedd gwahanol a sut gallwn ni ddefnyddio'r canfyddiadau hyn i hybu ymgysylltiad o fewn y cwmni. Mae’r maes marchnata, cyfathrebu ac ymgysylltu wedi fy niddori fel llwybr gyrfa, ac rwy’n siŵr y bydd yr interniaeth hon yn rhoi cipolwg i mi ar y gwaith sy’n gysylltiedig â’r meysydd hyn. Rwy’n awyddus i ddysgu gan weithwyr proffesiynol o fewn y diwydiant ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Caerdydd Creadigol i feithrin sgiliau newydd a fydd yn ehangu fy ngorwelion gwaith. 

Beth yw dy ffocws hefo Caerdydd Creadigol? 

Byddaf i wrth fy modd yn helpu’r tîm i integreiddio’r Gymraeg o fewn y cwmni, sydd yn rhywbeth rwy’n teimlo’n angerddol dros fel siaradwr rhugl, yn wreiddiol o Rydaman yn Sir Gaerfyrddin. Hoffwn rhoi hwb i ymgysylltiad y cwmni drwy’r Gymraeg i dargedu talent sy’n siarad Cymraeg ar draws Caerdydd, gan fy mod yn gwybod bod digon ohono! Hoffwn hefyd helpu i ymgysylltu â phobl ifanc. Fel myfyriwr fy hun, rwy’n hyderus y byddwn yn gallu cynnig syniadau, cynlluniau ar gyfer digwyddiadau neu weithdai posibl a chreu cynnwys ar draws gwahanol fathau o gyfryngau a fyddai’n cael eu teilwra’n arbennig ar gyfer myfyrwyr ac oedolion ifanc. Rwy’n gyffrous i fod yn cynorthwyo gyda digwyddiadau’r cwmni sydd i ddod ac i weithio ochr yn ochr â’r tîm ar y prosiect newydd cyffrous, ‘Sut i ‘Steddfod’, cyn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd. 

Hoff le yng Nghaerdydd?

Picture of one of the arcades in Cardiff

Rhaid i mi gyfaddef fy mod yn dipyn o ‘shopaholic’ ac rwy’n ffeindio fy hun yn cerdded o gwmpas canolfan siopa Dewi Sant yn aml! Mae gan y ddinas arcedau hyfryd hefyd gyda siopau dillad a siopau goffi annibynnol, sy'n esthetig iawn! Yn ystod y semester rwy’n cerdded drwy’r arcedau hyn bron bob dydd i gyrraedd fy narlithoedd newyddiaduraeth a bydden nhw bob tro yn dal rhyw fath o werth sentimental oherwydd maen nhw’n fy atgoffa o’r sgyrsiau a’r chwerthin y byddwn i’n cael gyda fy ffrindiau ar y ffordd i’n darlithoedd! 

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl graddio? 

Rwy’n cael fy nenu’n arbennig at ddyfodol mewn newyddiaduraeth ddarlledu, gyda thuedd cryf tuag at deledu. Ar ôl graddio, fy nod yw sicrhau lle ar y cwrs MA Newyddiaduraeth Ddarlledu ym Mhrifysgol Caerdydd. Fy nyhead yw i adrodd y newyddion ar y teledu i sefydliadau newyddion fel S4C a BBC Cymru. Mae aros yng Nghymru yn flaenoriaeth uchel i mi a byddai’n wych defnyddio’r Gymraeg fel rhan o fy ngwaith i adrodd nid yn unig ar gymunedau Cymreig, ond ar newyddion cenedlaethol a byd-eang. 

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event