Dan y chwyddwydr: Awni?

Mae Awni? yn blatfform ar-lein deinamig sy'n mapio digwyddiadau cerddoriaeth Cymraeg, gan ei gwneud hi'n haws nag erioed i ddarganfod yn union ble a phryd mae perfformiadau'n digwydd ledled y wlad. P'un a ydych chi'n wrandawr cyson neu'n newydd ond brwdfrydig, mae Awni? yn gwahodd defnyddwyr i brofi sîn fywiog a chynyddol cerddoriaeth Cymraeg mewn amser go iawn.

Wrth wraidd Awni? mae cenhadaeth i gysylltu pobl â cherddoriaeth fyw mewn ffordd sy'n dathlu'r iaith a'r diwylliant Cymraeg. I ddysgu mwy am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i'r platfform, siaradom â Martha, cyd-sylfaenydd Awni?, am sut y dechreuodd y cyfan, beth mae'n ei olygu iddi hi, a ble mae'n mynd nesaf...

awni logo

Q: Allwch chi gofio’r foment dyma chi’n penderfynu “Iawn, mae angen i ni ddechrau Awni”?

Ma'r ddau ohonyn ni'n mwynhau mynd i gigs Cymraeg ers oedden ni ddigon hen i fynd - ma'n rhan mawr o'n bywydau cymdeithasol ni, fel lot o'n ffrindia' ni. 'Da ni reit 'on the ball' yn ffeindio be sy' 'mlaen drwy ddilyn ein hoff artistiaid/venues ar y cyfryngau cymdeithasol - ond yn aml, oedd 'na gigs grêt yn mynd heibio heb i ni glwyed amdanyn nhw! Felly ar ôl dysgu am gig y bore ar ôl iddo ddigwydd un waith yn ormod, dyma ni'n penderfynu creu 'awni?' fel bod ddim angen deud 'o gytud, doddwn i'm 'di clywed am y gig na!' byth eto!

Q: Beth oedd y rhan anoddaf o ddechrau Awni?

I ddechrau, creu ap oedd y bwriad, ond ar ôl chwilio am opsiynau adeiladu ap - sylwon ni'n sydyn iawn bod o lot rhy uchelgeisiol a chostus. O'ni ddim rhy siwr wedyn os fysa 'awni?' yn bosib i gwbwl a colli gobaith yn y syniad! Ond gafoni bach o 'breakthrough' ar ôl defnyddio ChatGPT a sylwi bod modd defnyddio hwna i ddysgu sut i codio'r wefan fy hun. Mi gymrodd hi lot o amser i gael y wefan i weithio'n iawn (ma hi dal yn 'homemade' iawn!) ond dwi'n falch bod hi ar ei thraed. 

Ma yna LOT o gigs Cymraeg yn digwydd - felly 'da ni'n dal i ddysgu be di'r system ora' i drio gneud siwr bod rhain i gyd ar y wefan - 'da ni'n cyrradd yna'n ara bach gobeithio!

screenshot of the awni map

 

Q: Sut ydych chi'n meddwl bod Awni yn newid y gêm ar gyfer fans ac artistiaid cerddoriaeth Gymraeg?

Dwi'n meddwl bod 'awni?' yn ffordd hwylus i bobl sy'n mwynhau gigs Cymraeg i ffeindio be sy' 'mlaen o amgylch nhw, ag ella'n g'neud i bobl sylwi bod 'na *fwy* ymlaen nag oedden nhw'n feddwl. Fel rwyn sydd 'di symud o Gaerdydd nôl i Ogledd Cymru am chydig, mae'n hawdd deud 'dosna'm byd ymlaen yma' ond gobeithio bod 'awni?' yn g'neud i bobl sylwi bod digon o sîn tu allan i'r brifddinas, a'n annog pobl i drefnu mwy o gigs i 'lenwi'r gaps' ar y map (hint hint Powys!)

welsh band mellt performing on stage

Q: Beth am gerddoriaeth Gymraeg sy'n eich gwneud chi mor angerddol am ei harddangos?

Ma' hybu'r iaith Gymraeg yn rwbath sy'n agos iawn at 'y nghalon i fel lot o siaradwyr Cymraeg. A ma 'na llwyth o waith grêt yn cael ei neud o ran gwersi i ddysgwyr, polisïau, a gwaith mewn ysgolion i hybu'r iaith. Ond i mi, dwi'n meddwl mai cerddoriaeth, a gigs byw ydi'r arfau cryfa' sy'na i hybu iaith.

Dwi'n cyfeirio yn aml at yr effaith ma' Kneecap wedi'i gal ar yr iaith Wyddeleg - ma' nhw 'di dangos yr iaith mewn cyd-destyn cyfoes sy' mor wahanol i'r cyd-destyn ffurfiol ac academaidd ma lot o blant yn cysylltu hefo'r iaith ers ei ddysgu'n yr ysgol. Dyna'r effaith allith gigs Cymraeg gael ar bobl hefyd gobeithio - newid persbectif o weld o fel rhyw bwnc di-bwys yn ysgol, i rwbath sy'n gyffrous, yn fyw ag yn iach, yn greadigol, ag yn hwyl!

Q: Mae yna ganran fawr o bobl sydd ddim yn ymwneud â cherddoriaeth Gymraeg ond sydd eisiau! Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sydd eisiau ehangu eu gorwelion cerddorol?

Mae cymaint i'w fwynhau yn y sin gerddoriaeth Gymraeg, o gerddoriaeth gwlad i rap i indie-pop, byddwch yn bendant yn dod o hyd i rywbeth i’w fwynhau. Mae yna hefyd lwyth o gigs dwyieithog yn cael eu trefnu o gwmpas Cymru, sy’n ffordd wych o gymryd y cam cyntaf i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg. Mae'n ffordd grêt o ddysgu geiriau newydd hefyd os ydych chi am ddysgu! Ac wrth gwrs, os ydych chi eisiau ffordd hawdd i ddod o hyd i gigs - ewch i awni.cymru!

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.