Cynnal creadigrwydd

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 19 March 2020

Mae COVID-19 yn golygu bod nifer o weithwyr, llawryddion a busnesau creadigol am aros adref.  Mae'r gymuned greadigol yn parhau i gefnogi ei gilydd, o bell. Felly, mae'n amser i ni fynd â'n cyfarfodydd arferol, ein gweithgareddau a'n rhwydweithiau cefnogol ar lein. Mae ysbryd creadigrwydd a chydweithio am barhau ar y we.  Ry'n ni wedi cychwyn rhestr o adnoddau a gweithgareddau ar lein y bydd, gobeithio, o gymorth i chi yn ystod y cyfnod digynsail hwn ac yn help cynnal eich creadigrwydd. Helpwch ni i dyfu'r rhestr hon gan roi gwybod i ni os oes gennych brosiect yr hoffech ychwanegu neu tagiwch @CreativeCardiff ar draws unrhyw rwydwaith cymdeithasol er mwyn dangos i ni'r hyn rydych chi'n gwneud - mi fyddwn ni'n rhannu unrhyw gynnwys gyda'r gymuned greadigol.  

Creu 

 Gwrando Gwylio Symud  Darllen Gwneud  Mwy  Os ydych chi'n weithiwr, busnes neud sefydliad creadigol sydd angen unrhyw gymorth yn ystod y cyfnod hwn, cymerwch gipolwg ar ein rhestr o adnoddau COVID-19. 
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event