Mae COVID-19 yn golygu bod nifer o weithwyr, llawryddion a busnesau creadigol am aros adref. Mae'r gymuned greadigol yn parhau i gefnogi ei gilydd, o bell. Felly, mae'n amser i ni fynd â'n cyfarfodydd arferol, ein gweithgareddau a'n rhwydweithiau cefnogol ar lein. Mae ysbryd creadigrwydd a chydweithio am barhau ar y we. Ry'n ni wedi cychwyn rhestr o adnoddau a gweithgareddau ar lein y bydd, gobeithio, o gymorth i chi yn ystod y cyfnod digynsail hwn ac yn help cynnal eich creadigrwydd. Helpwch ni i dyfu'r rhestr hon gan roi gwybod i ni os oes gennych brosiect yr hoffech ychwanegu neu tagiwch @CreativeCardiff ar draws unrhyw rwydwaith cymdeithasol er mwyn dangos i ni'r hyn rydych chi'n gwneud - mi fyddwn ni'n rhannu unrhyw gynnwys gyda'r gymuned greadigol.
Creu
- Now in a Minute Productions – Coronalogues mewn cydweithrediad rhwng awduron ac actorion
- AM – lawrlwythwch yr ap creadigol gan Pyst er mwyn mwynhau, darganfod a rhannu cynnwys creadigol
- Phrame Collective – Cyfle i ffotograffwyr gymryd drosodd cyfryngau cymdeithasol
- Banc o straeon ar lein – Anfonwch stori at Lisa Heledd Jones
- Arthole Isolation Club – Cofrestrwch ar Instagram
- Cyw - Taflenni gwaith ac adnoddau creadigol i blant
- Matt Joyce - Llyfr lliwio
- Independent Cinema Office - Gweithiwr llawrydd neu o gefndir sinema â gwybodaeth i rannu ac amser i sbario? Cyflwynwch erthygl i flog ICO.
- Urdd - gweithgareddau i'w mwynhau dan do i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn dal i ddysgu a ddim yn diflasu
- Hansh - Ymunwch â chymuned Creu Hansh er mwyn creu a rhannu eich cynnwys creadigol
- ScreenSkills – BBC Writers' Room - Gweithdy ar-lein: sgriptiau ar gyfer y teledu
- Fio - Her pen at bapur
- Ysgol Pensaernïaeth Cymru - Cystadleuaeth llunio fy stryd
- Ocean Arts Online - Datgloi eich creadigrwydd
- We Are Cardiff - Cyfrannwch at eu cyfres, Llythyrau o Gaerdydd Dan Glo
- Green Squirrel – Digwyddiad crefft rhithwir
- Llenyddiaeth Cymru – Dosbarth Meistr Digidol
- Y Pod - Gwrandewch ar lu o bodlediadau Cymraeg
- National Theatre Wales - Egin: Sgyrsiau Hinsawdd
- Podlediad Miwsig Cymreig - Gwrando
- Podlediadau Caerdydd Creadigol - The Rise of the Influencer | Sut beth yw dylanwadu digidol? | No Funny Business | Creativity & Wellbeing | A yw creadigrwydd yn ffordd o fyw? | Women in Creative Business
- Skwiggly Animation Film Club Podcast - Gwrandewch
- Cawl Mympwy - Podlediad i rannu gweithiau llenyddol byrion.
- AM – lawrlwythwch yr ap creadigol gan Pyst, llwyth o adloniant newydd i'w fwynhau *
- Celfyddydau Gwirfoddol – Rhwydwaith Creadigol, cyfle i unrhyw un sy'n gweithio ym meysydd celfyddydol, diwylliannol neu greadigol i ddod at ei gilydd ar lein yn ddyddiol
- The Guardian - Y seddi gorau yn y lolfa: y theatr a dawns gorau i wylio ar lein
- S4C - Gwyliwch Lwp:Curadur gydag Ani Glass / Georgia Ruth a'i halbym newydd, Mai
- Google - Celfyddydau a Diwylliant
- Anim18 - Galeri
- CULTVR - Crwydro Lle Celf yr Eisteddfod ar-lein
- Gŵyl Animeiddio Caerdydd - Arhoswch Adre, Animeiddiwch!
- DIGITHON - Cronfa Gŵyl Gelfyddydol ar-lein
- Gŵyl Ar-lein Hijinx – Gŵyl theatr a ffilm am ddim.
- BFI - Casgliad o ffilmiau i'w gwylio am ddim
- Gŵyl Lenyddiaeth Ryngwladol Cúirt - ‘Mamieithoedd’ - Mae Bardd Cenedlaethol Cymru yn ymuno â beirdd o’r Alban ac Iwerddon ar gyfer darlleniadau byw
- Ffrindiau Ffrydio Gorwelion - Gwyliwch gigs ar-lein
- Film Hub Wales - 50 Ffilm Gymreig i Wylio Adre Penwythnos yma
- Where I'm Coming From - Digwyddiadau Digidol Am Ddim
- Gŵyl y Gelli Digidol - #Imaginetheworld am ddim i'w gwylio o'r 18-31 Mai 2020
- Urdd Gobaith Cymru - Urdd Gobaith Cymru am gynnal Eisteddfod ddigidol / Gwyliwch ddiwrnod olaf Eisteddfod T (29 Mai) *
- Clwb Ifor Bach - Sesiynau Sul *
- WNO - Gwyliwch Gorws Rhithwir Opera Cenedlaethol Cymru *
- National Theatre Wales - Gwyliwch y gyfres o gomisynau 'Network' - cyfleoedd i brofi theatr fyw ac arloesol ar lwyfan ddigidol *
- Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru – Dawnsio o adre: rhestr o wersi yoga a dawnsio gellir gwneud ar lein
- Buzz Magazine - Cadw'n heini adre
- Codi Pais - llyfryn-gylchgrawn gan ferched Cymru i bawb
- The Moon Cardiff - Codi arian am Gig ar-lein
- Celfyddydau Gwirfoddol – Rhwydwaith Creadigol, dod ynghyd unwaith y dydd. Agored i unrhyw un sy'n ymwneud â'r sector celfyddydol, diwylliannol a chreadigol.
- Côr-ona - Dewch i ganu gyda chymuned corol ar lein