Mae Opera Cenedlaethol Cymru’n falch o fod wedi cael ei ddewis fel un o’r 50 sefydliad celfyddydau dewisol i gynnig cymrodoriaethau fel rhan o Raglen Bwrsariaethau Creadigol Weston Jerwood 2020 – 2022. Nod y rhaglen hon yw denu mwy o bobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel i mewn i yrfaoedd diwylliannol.
Mae’r rôl newydd Cymrawd Cyfarwyddo WNO wedi ei hanelu’n benodol at bobl sydd wedi profi rhwystrau cymdeithasol a/neu economaidd i gyflogaeth mewn opera.
Hoffem sgwrsio ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa fel Cyfarwyddwr a dysgu beth mae hynny’n ei olygu mewn cwmni opera. Rhywun sydd â diddordeb yn y celfyddydau perfformio, a beth allant ei gynnig i gymunedau a chynulleidfaoedd. Hoffem gwrdd â phobl sy’n mwynhau gweithio ar y cyd ac ar brosiectau o wahanol feintiau, a phobl sy’n hoffi newid a herio syniadau drwy eu gwaith.
Bydd Cymrawd Cyfarwyddo WNO yn gweithio ar gynyrchiadau newydd a chyfansoddiadau cerddorol newydd, yn ogystal â chreu a chyflwyno gwaith fel rhan o’n gweithgareddau cyfranogiad a gwaith estyn allan, a gydag Artistiaid Cyswllt WNO. Bydd y rôl yn cynnwys cymysgedd o waith ymarferol, goruchwylio, trafod gydag ymarferwyr profiadol a chyflwyniad i ragor o gyfleoedd. Yn ddelfrydol, mae’r Gymrodoriaeth ar gyfer ymgeisydd sydd eisiau ennill profiad fel cyfarwyddwr cynorthwyol ar gynyrchiadau opera mawr a bach, byw a digidol a byddwn yn darparu cyfleoedd datblygu, adnoddau a chymorth gyrfaol yn ystod eich amser gyda WNO.
Cyfnod Penodol Ebrill 2021 – Mawrth 2022
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:
Hanner dydd, dydd Gwener 19 Chwefror 2021
Dyddiadau cyfweld:
w/d 15 Mawrth 2021
Gall dyddiad dechrau'r cymrodoriaeth fod yn hyblyg ond cyn diwedd Ebrill 2021
Mae rhaglen Bwrsariaethau Creadigol Weston Jerwood 2020-2022 wedi'i chynllunio a'i chynhyrchu gan Jerwood Arts. Fe'i hariennir a'i chefnogi gan Gronfa Trawsnewid Arweinyddiaeth Cyngor Celfyddydau Lloegr, Garfield Weston Foundation, Art Fund, Cyngor Celfyddydau Cymru, Creative Scotland, British Council, Jerwood Arts a PRS Foundation.