Cyhoeddi Aelodau Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 30 October 2019

Ymhlith y 22 aelod o Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd y cyhoeddwyd eu henwau heddiw mae un o DJs radio mwyaf blaenllaw Cymru, prif leisydd band byw ffrwydrol, cyfarwyddwr elusen gerddoriaeth gymunedol flaenllaw ac un o’r tîm a gyflwynodd y polisi Cyfrwng Newid yng Nghymru. Bydd y bwrdd yn cynnal ei gyfarfod cyntaf ym mis Rhagfyr.

Roedd sefydlu Bwrdd Cerddoriaeth yn un o brif argymhellion ar gerddoriaeth yng Nghaerdydd yn yr adroddiad Sound Diplomacy, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, a’i waith fydd bod yn bencampwr dros y sîn gerddoriaeth yn y ddinas, gwarchod a hybu cerddoriaeth ar bob lefel, a datblygu Strategaeth Gerddoriaeth Caerdydd.

Dewiswyd aelodau’r Bwrdd, a gaiff ei gadeirio gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, i adlewyrchu amrywiaeth cymdeithasol Caerdydd. Maent yn cynrychioli aml-feysydd sector gerddoriaeth Caerdydd, yn lleoliadau gigs lleol, rheolwyr arenâu, hyrwyddwyr, newyddiadurwyr, undeb y cerddorion, arbenigwyr ar dwristiaeth, addysgwyr busnes cerddoriaeth, sefydliadau cerddoriaeth gymunedol, cyllidwyr cyhoeddus, artistiaid, DJs a chynhyrchwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: “Mae hwn yn gam hanfodol ymlaen wrth gyflawni’r Strategaeth Gerddoriaeth a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Ein huchelgais yw trawsnewid Caerdydd i fod y ddinas gyntaf yn y DU lle mae cerddoriaeth wedi’i hymgorffori yn ei strwythur - mae hynny’n golygu popeth, o gynllunio a thrwyddedu i les cymdeithasol a thwristiaeth.”

“Mae Caerdydd yn ddinas llawn artistiaid, cerddorion, cantorion, cynhyrchwyr, peirianwyr sain, ac wrth gwrs, pobl sy’n dwlu ar gerddoriaeth. Adlewyrchwyd yr angerdd hwnnw dros gerddoriaeth yn nifer ac ansawdd y ceisiadau a dderbyniwyd gan bobl oedd am gydweithredu fel rhan o’r Bwrdd Cerddoriaeth ac am weithredu strategaeth sy’n sicrhau gwerth economaidd  a chymdeithasol gorau cerddoriaeth. Mae’r strategaeth hefyd yn chwarae rhan bwysig yn ein huchelgais ehangach i helaethu sectorau creadigol a digidol y ddinas sydd eisoes yn creu argraff.”

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: “Mae Caerdydd yn un o bwerdai creadigol y DU - mae ein sector creadigol yn cyflogi oddeutu 15,000 o bobl ac yn cynhyrchu gwerth mwy na £1 biliwn i’r economi lleol – ond mae sector cerddoriaeth fyw y DU yn tyfu, yn ogystal â’r nifer o swyddi y mae’n eu cefnogi.

“Mae ‘na gyfle gwirioneddol fan hyn i’n sector gerddoriaeth ac i economi ehangach y ddinas, a chyda’r sgiliau eang a’r profiad sydd gan yr aelodau sydd newydd eu penodi i’r Bwrdd Cerddoriaeth, mae Caerdydd mewn lle da i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd hynny, gan gynnwys datblygu digwyddiad unigryw blynyddol a fydd yn dyrchafu Caerdydd, ac yn wir bresenoldeb diwylliannol Cymru yn rhyngwladol.

“Mae’n amser cyffrous i fod yn greadigol yng Nghaerdydd ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Bwrdd i wneud ein dinas yn ddinas wirioneddol gerddorol.”

 

Aelodau’r bwrdd yw:

1.    Bethan Elfyn

Cynhyrchydd radio llwyddiannus, cyflwynydd gyda’r BBC ac ymchwilydd teledu gydag ugain mlynedd o brofiad rheng flaen o gerddoriaeth newydd, Bethan sy’n arwain ar ddatblygu strategaeth partneriaeth gwerth cyhoeddus BBC Cymru Wales gyda Chyngor Celfyddydau Cymru - Horizons/Gorwelion - sef cynllun datblygu talent gerddorol i ddatblygu cerddoriaeth newydd, annibynnol a chyfoes yng Nghymru. 

 

2.    Guto Brychan

Yn Brif Weithredwr ar Glwb Ifor Bach ers 2012, daeth Guto yn Brif Weithredwr Gŵyl Sŵn yn ddiweddar ac mae’n trefnu Maes B yn flynyddol i’r Eisteddfod Genedlaethol.  Guto yw un o brif hyrwyddwyr cerddoriaeth fyw yng Nghymru, yn cefnogi talent newydd yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.  Yn flaenorol, roedd yn Aelod Bwrdd ac yn Swyddog y Gymraeg yn y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig ac yn Rheolwr Labeli gyda Recordiau Sain.

 

3.    Helia Phoenix

Blogiwr llwyddiannus, awdur llyfrau, a newyddiadurwraig ym maes cerddoriaeth, teithio a diwylliant. Am yr ugain mlynedd diwethaf mae Helia wedi gweithio fel cynhyrchydd cynnwys, mewn radio ac ar ffilmiau dogfennol, ac mae wedi’i chyhoeddi gan yn y Guardian, y Rolling Stone ac eraill. Mae Helia yn cynnal un o’r blogiau dinesig mwyaf llwyddiannus yn y byd, ac yn 2017 cafodd ei henwi fel gweledydd yn rhestr Cardiff Life o’r 50 prif berson sy’n adeiladu dyfodol disgleiriach i’r ddinas.  Ar hyn o bryd hi yw Rheolwr y Cyfryngau gyda Chroeso Caerdydd, yn rheoli’r cynnwys cymunedol a golygyddol. 

 

4.    Jon Fox

Mae gan Jon dros 25 mlynedd o brofiad mewn Cynllunio a Llunio Lleoedd ac ef yw ymgynghorydd yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth ar gynllunio a sŵn drwy Brydain.   Fel Cynlluniwr Trefol roedd Jon yn rhan o’r tîm oedd yn gyfrifol am gyflwyno polisi Cyfrwng Newid yng Nghymru. 

 

5.    Michael Garvey

Mae gan Michael dros ugain mlynedd o brofiad o’r diwydiant cerddoriaeth a chelfyddydau, yn y sectorau masnachol, â chymhorthdal, cyhoeddus ac elusennol. Yn ystod ei yrfa mae wedi gweithio yn y diwydiannau recordio a darlledu, y system ariannu gyhoeddus yn Lloegr a’r sector gerddorfeydd. Ef ar hyn o bryd yw Cyfarwyddwr Gweithredol cyntaf y Benedetti Foundation, elusen addysg gerddorol newydd.

 

6.    Lucy Squire

Mae Lucy yn gweithio yn y diwydiannau creadigol â chanddi gefndir cyfreithiol, a phrofiad o’r byd busnes ac addysg. Mae wedi chwarae rhan weithgar yn y byd cerddorol yn y De, ac mae wedi rhedeg busnesau llwyddiannus yn y byd manwerthu, hyfforddiant, nwyddau, labeli recordiau a digwyddiadau, yn fwyaf nodedig gyda’r brand Catapult oedd yn gweithredu o Arcedau Caerdydd tan 2014. Lucy ar hyn o bryd yw Pennaeth Cerddoriaeth gyda Phrifysgol De Cymru.

 

7.    Phil Sheeran

Fel Rheolwr Cyffredinol Arena Motorpoint Caerdydd, mae Phil wedi goruchwylio rhan fawr o economi gerddorol y ddinas dros ddegawd a mwy, gan ddod ag artistiaid mawr rhyngwladol fel Kylie, y Pixies, One Direction a’r Who i’r ddinas.  Mae Phil hefyd yn rheoli lleoliad newydd llai y Motorpoint - Exit 7.  Mae hefyd yn aelod o’r gronfa gerddorol newydd ANTHEM ac yn aelod o fwrdd ‘FOR Cardiff’.

 

8.    Liz Hunt

Mae Liz Hunt yn gerddor, yn gyfansoddwr caneuon, yn berchennog lleoliad ac yn drefnydd digwyddiadau.  Gan ddechrau fel hyrwyddwr annibynnol, aeth ymlaen i weithio mewn nifer o leoliadau bychain yn trefnu gigs, ac mae ganddi bron i ugain mlynedd o brofiad o’r sîn gerddoriaeth yng Nghaerdydd. Mae Liz nawr yn gyd-berchennog ar The Moon, lleoliad nid-er-elw ar Stryd Womanby. Mae hefyd yn trefnu Hub Fest, Wales Goes Pop, Gŵyl Psych & Noise Caerdydd, a digwyddiadau rhwydweithio yn y diwydiant.

 

9.    Gavin Allen

Mae Gavin yn  Ddarlithydd mewn Newyddiaduraeth Ddigidol ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn gyn-Olygydd Cyswllt gyda Mirror.co.uk, mae hefyd wedi gweithio yn MSN a’r MailOnline.  Yn ystod degawd gyda Media Wales treuliodd bedair blynedd yn ysgrifennu am gerddoriaeth ar y South Wales Echo.

 

10.  Tumi Williams

Mae Tumi yn ymarferydd creadigol, asiant archebu a threfnydd digwyddiadau ac ef yw prif leisydd Afro Cluster - grŵp sy’n enwog am eu cymysgedd unigryw a chyffrous o Afro-Funk a Hip Hop a’u sioeau byw ffrwydrol.  

 

11.  Hannah Jenkins

Mae Hannah wedi gweithio yn y sector ddiwylliannol ers bron i ugain mlynedd, yn flaenorol fel Rheolwr Datblygu’r Celfyddydau, yn creu rhaglenni ar gyfer nifer o leoliadau gan gynnwys Sinema’r Neuadd Farchnad, Theatr y Beaufort a Theatr Gymunedol Abertyleri, yn ogystal â rheoli menter gelfyddydol gymunedol helaeth ledled Blaenau Gwent.  Ers 2008 hi yw Cyfarwyddwr yr elusen gerddorol genedlaethol, Cerdd Gymunedol Cymru, sydd wedi tyfu yn un o elusennau cyfranogi cerddoriaeth fwyaf blaenllaw Cymru, gydag enw am ragoriaeth. 

 

12.  Nicholas Saunders

Mae Nicholas yn hyrwyddwr yn y diwydiant cerddoriaeth ac yn sylfaenydd The DEPOT a DEPOT Live Yn gyfrifol am ddod â Nile Rodgers a CHIC i Gastell Caerdydd yn 2020, a’r Foals ym Mehefin 2020, mae Nick hefyd yn Gyfarwyddwr Shangri-La Events sydd wedi dod ag artistiaid enwog yn rhyngwladol fel Duke Dumont, MK, Jamie Jones, Patrick Topping a Pete Tong i leoliadau yng Nghaerdydd, Lerpwl, Llundain ac Ibiza.

 

13.  Andy Warnock

Andy yw Trefnydd Rhanbarthol Undeb y Cerddorion yng Nghymru a de-orllewin Lloegr, ac mae’n gweithio o Gaerdydd.  Mae’r MU yn cynrychioli dros 31,000 o gerddorion sy’n gweithio yn y DU, yn negodi gyda’r prif gyflogwyr yn y diwydiant, ac yn cynnig gwasanaethau, buddion a chyngor wedi’u teilwra i anghenion cerddorion.

 

14.  Daniel Minty

Daniel yw awdur Canllaw Minty i Gigiau Caerdydd, ac mae wedi ymrwymo i hybu’r sîn gerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd a Chymru. Lansiodd fap ‘Canllaw Minty i Gigiau Caerdydd’ a phodlediad wythnosol gyda’r nod o hybu’r holl leoliadau y gall pobl fynd iddynt yng Nghaerdydd i fwynhau cerddoriaeth fyw. Yn ymgyrchydd ac eiriolwr brwd dros dalent hen a newydd, mae Minty yn aelod llawrydd o dîm Horizons/Gorwelion BBC Cymru.

 

15.  Sarah Hemsley-Cole

Sarah yw Cyfarwyddwr Cwmni SC Productions Ltd. Yn arbenigo ar reoli Safleoedd, Cynhyrchu, Digwyddiadau a Chysylltu gydag Artistiaid, mae SC Productions wedi trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau o gyngherddau cerddorol ar raddfa fawr i theatr safle-benodol mewn stadia, lleoliadau hanesyddol, meysydd gwyrdd, canol dinasoedd a theatrau ledled y DU ac Ewrop.  Sarah hefyd yw cyd-sylfaenydd NOWIE – fforwm ar-lein yn bennaf ar gyfer Menywod sy’n Gweithio yn y Diwydiant Digwyddiadau.

 

 

16.  Antwn Owen-Hicks

Rheolwr Portffolio yng Nghyngor Celfyddydau Cymru yw Antwn. Mae ei waith yn cynnwys y portffolio cerddoriaeth, partneriaethau darlledu, Ffilm Cymru Wales a’r Celfyddydau a Busnes.   Hyfforddodd fel artist gweledol, ond mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn datblygu cerddoriaeth draddodiadol, gan recordio a theithio fel cerddor traddodiadol ers 1995. Mae’n arwain dirprwyaeth Cymru yn y Festival Interceltique de Lorient yn Llydaw bob blwyddyn.

 

17.  Adrian Field

Cyfarwyddwr Gweithredol “For Cardiff”, Ardal Gwella Busnes Caerdydd yw Adrian Field. Mae’n cynnwys 130 o strydoedd yn y ddinas, o Stadiwm y Principality i Heol Casnewydd ac o Butetown i Cathays.  Yn un o ardaloedd gwella busnes mwyaf y DU, yn cynnwys dros 900 o dalwyr trethi, mae’r cynllun Cenhadon yn un o’r rhaglenni gwaith y mae’r Ardal wedi’i gynllunio ar gyfer eu strategaeth 5 mlynedd i wneud Caerdydd yn fwy croesawgar, bywiog a dylanwadol.   Mae gan Adrian ddiddordeb byw mewn datblygu’r sîn gerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd fel rhan o economi'r nos ffyniannus.

 

Wrth siarad am ei phenodiad i’r Bwrdd Cerddoriaeth, dywedodd Bethan Elfyn:  “Mae’n fraint enfawr i gael fy ngwahodd i fod yn aelod o Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd. Mae sîn gerddoriaeth Caerdydd wedi effeithio ar bob rhan o fy mywyd ac wedi newid sawl llwybr.  Syrthiais mewn cariad gyda’r ddinas drwy’r sîn gerddorol a’i chymuned greadigol ‘nôl yn y 90au.  O weithio’n rhan amser yn Spillers, i weithio tu ôl y bar yn y Clwb, rêfio yn yr Hippo Club, moshio yn Metros, ac yn fwy diweddar ei gweld hi drwy lygaid DJ, hyrwyddwr a darlledwr - mae Caerdydd wedi newid llawer, ond does dim pall wedi bod yn y prysurdeb a’r ynni mae cerddoriaeth yn ei gyflwyno i’r ddinas.  

“Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi’r strategaeth, i gydweithio a chlywed syniadau a chynlluniau newydd ar gyfer datblygu ac adeiladu ar y porth hwn i gerddoriaeth o Gymru.”

Ymhlith aelodau eraill y Bwrdd mae:

Y Cynghorydd Huw Thomas (Cadeirydd) - Arweinydd Cyngor Caerdydd

Y Cynghorydd Peter Bradbury -Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth

Ruth Cayford – y Diwydiannau Creadigol a Diwylliant, Cyngor Caerdydd

Heather Brown - Swyddog Datblygu Digwyddiadau, Cyngor Caerdydd

Gerwyn Evans - Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol, Llywodraeth Cymru

Dywedodd Llywydd Sound Diplomacy, Shain Shapiro: “Sefydlu Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yw’r garreg filltir gyntaf yn y broses o symud ymlaen gyda’r strategaeth gerddoriaeth. Cofiwch, proses yw’r strategaeth gerddoriaeth, nid râs. Mae’n rhan bellach o lywodraethu’r ddinas, fel unrhyw beth arall. Bydd datblygu’r bwrdd yn helpu i yrru’r argymhellion yn eu blaen gyda’i gilydd, yr ydym yn edrych ymlaen at eu cefnogi ym mha bynnag ffordd y gallwn.” 

Llun gan Pete Takes Pictures 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event