Cred Sophie Howe, hyrwyddwr sy’n codi ei llais dros Incwm Sylfaenol Cyffredinol y gallai prosiect peilot achub y sector celfyddydau a diwylliant yng Nghymru, sy’n brwydro yn erbyn anawsterau, a gweithredu fel treial ar gyfer tâl i bawb yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan cymorth o £53m i gynorthwyo sefydliadau diwylliannol yng Nghymru sydd wedi dioddef fwyaf o effeithiau COVID-19.
Tra gallai’r arian helpu canolfannau i gynllunio ar gyfer ailagor o dipyn i beth, dywed y comisiynydd y gallai Incwm Sylfaenol Cyffredinol i ymarferwyr creadigol helpu’r celfyddydau i oroesi yn yr hirdymor.
Tâl uniongyrchol, heb brawf modd i ddinasyddion yw Incwm Sylfaenol Cyffredinol – canfu treial yn y Ffindir bod derbynwyr wedi nodi cynnydd mewn cynhyrchiant a gwell iechyd meddwl.
Dywedodd: “Rydyn ni’n clywed llawer am adferiad economaidd – ond mae adferiad creadigol yr un mor bwysig.
“Mae cymdeithas greadigol yn gymdeithas sy’n ffynnu, Mae pobl greadigol Cymru – yr artistiaid, ysgrifenwyr, beirdd, cerddorion, perfformwyr a mwy – yn hollbwysig ar gyfer codi Cymru yn ôl ar ei thraed – ond mae angen rhoi mwy o gefnogaeth iddynt.
“Roedd y sector yn wynebu anawsterau eisoes, cyn y pandemig, ac mae ei allu i oroesi’n dibynnu ar ymateb a fydd torri tir newydd.
“Felly byddai Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn mynd ymhellach na bod yn gyfraniad a roddir mewn argyfwng – gallai hyn achub swyddi, amddiffyn ein dyfodol diwylliannol hirdymor a helpu adferiad Cymru”.
Bydd y swm o £53m yn cael ei gyflwyno ar y cyd gan y llywodraeth a Chyngor Celfyddydau Cymru ac mae amodau’r gronfa’n cynnwys ‘contract diwylliannol’ sy’n gofyn i ymgeiswyr ymrwymo i waith a thâl teg a chynaliadwyedd.
Gallai’r prosiect peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol ar gyfer y sector creadigol ffurfio rhan o’r contract hwn, meddai’r comisiynydd, gan ganiatáu i ganolfannau weithio gyda chymunedau ar ymagwedd ‘rhywbeth am rywbeth’ a helpu i fynd i’r afael ag effeithiau’r cyfyngiadau symud, megis arwahanrwydd.
Mae’r comisiynydd yn gweithio gyda sefydliadau diwylliannol yng Nghymru ar gynnig sy’n ymwneud â’r modd y byddai’r cynllun yn gweithio gydag oddeutu 60,000 o bobl sy’n cael eu cyflogi gan y sector celfyddydau a’r sector creadigol. Yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud, cynorthwyodd Cyngor Celfyddydau Cymru artistiaid a grwpiau drwy’r Gronfa Sefydlogi Unigol ar brosiectau megis rhith-deithiau stori, ffrydio cyngherddau i gartrefi gofal a chynnal perfformiadau ar garreg y drws tu allan i fannau llety gwarchod.
Yn Ffrainc, yn draddodiadol, mae artistiaid wedi derbyn cymorthdaliadau drwy gyfnodau o ddiweithdra.
Dywedodd Ms Howe y gallai Cymru arwain y byd drwy ddarparu rhwyd ddiogelwch i’r sector wrth i artistiaid ddefnyddio’u talentau a’u sgiliau i gynorthwyo gwahanol fathau o ymatebion i’r pandemig.
Gallent chwarae rôl allweddol, meddai, yn y dasg o helpu i ailadeiladu canolfannau trefi a dinasoedd, gan gynorthwyo pobl agored i niwed drwy ennyn eu hymgyfraniad yn y celfyddydau a cherddoriaeth a helpu i annog ‘meddwl creadigol unigryw’ ar gyfer datrys problemau ôl-bandemig.
Dywedodd y byddai Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn caniatáu i werth uwch gael ei osod ar waith creadigol – mae rolau creadigol yn cael eu rhagweld fel rhai sydd yn y perygl lleiaf o gael eu disodli gan awtomeiddio.
Yn ei rôl fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, mae Ms Howe wedi cynghori y dylai cyrff cyhoeddus ennyn ymgyfraniad ymarferwyr creadigol o’r cychwyn cyntaf wrth gynllunio gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith, ac y dylent weithio ar bopeth, o ysgolion i ysbytai i helpu i ddatrys yr argyfwng hinsawdd.
Mae Ms Howe wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru eu bod yn colli cyfleoedd diwylliannol yn eu cynllunio ôl-bandemig a dywedodd bod gan ddiwylliant rôl fawr i’w chwarae yn adferiad y genedl.
Dywedodd y byddai’r cynllun hefyd yn annog cynwysoldeb, gan helpu sefydliadau a Llywodraeth Cymru i weithio gydag unigolion a grwpiau sy’n cyrychioli Cymru fywiog ac amrywiol.
“Dylai treial Incwm Sylfaenol Cyffredinol penodol ar gyfer pobl, yn cynnwys gweithwyr llawrydd, sy’n cyfrannu at y celfyddydau mewn ystod o wahanol ffyrdd, fynd beth o’r ffordd tuag at atal y diwylliant echdynnol o ‘bigo ymennydd rhywun’ a gweld pobl greadigol yn cael eu talu’n deg am eu gwaith”, meddai.
“Byddai’n dangos mewn ffordd ymarferol iawn ein bod yn gwerthfawrogi cyfraniad parhaus y sector creadigol i lesiant Cymru.”
Mae Graeme Farrow, cyfarwyddwr artistig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, yn cefnogi’r syniad. Dyweddodd: “Po fwyaf y meddwl a’r gweithredu creadigol sy’n rhan o’r adferiad yng Nghymru, gorau oll a’r mwyaf cydnerth fydd hi.
“Mae artistiaid yng Nghymru wedi dangos pa mor werthfawr yw eu gwaith mewn iechyd, addysg a meysydd eraill ar draws yr economi.
“Mae yna gyfle gwirioneddol yma i fuddsoddi yn ein hartistiaid yn ogystsal â’n dyfodol law yn llaw, nid yn unig drwy gynnig sy’n lleddfu pwysau yn y tymor byr.
“Mae math o incwm sylfaenol sy’n caniatáu i ymarferwyr creadigol weithio dros amser mewn cymunedau, mewn gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith yn ddull blaengar o fanteisio ar y cyfle hwn ac rwy’n cefnogi gweledigaeth Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn hyn o beth.”
Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru “Mae hwn yn gynnig diddorol oddi wrth y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn un sy’n haeddu ystyriaeth ofalus. Mae’r pandemig COVID yn gofyn rhai cwestiynau anodd, yn cynnwys beth yw’r dull gorau o gefnogi’r nifer fawr o unigolion llawrydd sy’n cynnal y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol drwy eu gwaith. Eto pan ddigwyddodd y cyfyngiadau symud, rhain oedd yr union bobl y daeth eu gwaith i ben ar unwaith heb unrhyw argoel o unrhyw beth ar y gorwel agos.
Mae hon yn ffynhonnell profiad enfawr nas defnyddiwyd, a byddem yn cefnogi galwadau i archwilio treialu Incwm Sylfaenol Cyffredinol. Byddai gallu talu treuliau hanfodol, er enghraifft, yn golygu na fyddai gweithwyr proffesiynol medrus iawn yn cael eu gorfodi i dderbyn swyddi yn unig er mwyn medru ‘talu’r biliau’, yn enwedig pe byddent o gefndiroedd llai cefnog. Mae Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn ffordd wych o lefelu ac fe allai o bosib newid y syniad mai dim ond y cefnog a'r breintiedig sy'n gallu fforddio bod yn weithwyr proffesiynol yn y celfyddydau.”
Mae gan y cynllun, medd y comisiynydd, y potensial fel prosiect peilot i arwain o dipyn i beth at incwm sylfaenol cyffredinol i bawb yng Nghymru.
Ym mis Mai, dywedodd fod yr achos dros Incwm Sylfaenol Cyffredinol, a argymhellwyd yn ei Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol newydd, wedi dod yn hanfodol fel canlyniad i’r pandemig.
Ers i’r adroddiad gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth mae’r comisiynydd, yn rhinwedd ei swydd fel un sy’n gwarchod cenedlaethau’r dyfodol rhag gweithrediadau gwleidyddol heddiw, hefyd wedi galw am wythnos waith fyrrach i leihau ein hôl-troed carbon a chadw pobl yn iach,
Yr adroddiad hwn yw’r darn mwyaf o waith ers i’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ddod i rym yn 2015 ac mae Ms Howe yn gofyn i Lywodraeth Cymru ei ddefnyddio i drwytho ymateb i’r argyfwng a fydd yn amddiffyn cymdeithas yn yr hirdymor, gan roi ffocws ar ansawdd bywyd.