Am y bedwaredd flynedd yn olynol, mae’r Queer Emporium WIP Season yn dychwelyd, gyda nifer o ddigrifwyr a chomediwyr cwiar yn dod a’i ‘preview’ o’i sioeau llawn! Am y sioe derfynol, dewch i weld gwaith newydd gan Leila Navabi a Sam Williams!
Mae Leila Navabi yn ysgrifennydd a chomedïwr o De Cymru. Yn 2023, aeth hi i Ŵyl Ffrinj Caeredin gyda’i sioe, Composition. Cafwyd ei disgrifio fel ‘dyfodol comedi’ gan LMAOnaise, ac mae wedi perfformio ar sioeau gan gynnwys BBC New Comedy Awards 2022 (BBC), Live at Aberystwyth Pier (BBC) Stand-up Sesh (BBC), Stand Up in My House (BBC) a The Leak (BBC). Maent yn ddwyieithog ac wedi serennu yn Ffyrnig (S4C) a Ni y Nawdegau (BBC Cymru). Mae hi wedi cefnogi Jessica Fosterkew, Laura Smyth a Nish Kumar ar daith.
Ymunwch a’r ‘patron saint of bisexual firstborns’, Sam Williams, wrth iddo drafod cymhlethdodau o fod yn berson cwiar o ffydd. Mae’n sioe gan berson Cristnogol, ond mae’n debygol bydd rhan fwyaf o bobl Gristnogol yn eu casáu.
Beth ydy WIP?
Mae WIP neu ‘work-in-progress’, yn sioe mae digrifwyr yn wneud i brofi deunydd newydd, cyn cyflwyno sioe terfynnol i gynulleidfaoedd ehangach.
Beth ydy WIP Season?
Pob dydd Iau, o ddiwedd Mai a thrwy gydol Mehefin, bydd dau gomedïwr o’r gymuned LHDTC+ yn dod a chipolwg o’i sioe derfynol i’r Queer Emporium! Medrwch brynu tocynnau am bob digwyddiadau yn unigol, neu bas sy’n caniatáu mynediad i bob digwyddiad am bris rhatach!