Soniwch amdanoch eich hun a'ch cefndir creadigol
Dechreuodd fy nhaith greadigol yn 2018. Cyn hynny, doeddwn i erioed wedi astudio na gweithio yn y celfyddydau na'r diwydiannau creadigol o gwbl. Rwyf wedi fy nghofrestru'n ddall, felly feddyliais i ddim erioed fod y sector hwnnw'n addas i mi. Erbyn hyn, rwyf i wedi canfod fy lle yn y diwydiant fel hyfforddwr ymwybyddiaeth ddall ac ymgynghorydd mynediad, yn bennaf ar gyfer y celfyddydau a theatr. Rwyf hefyd wedi gwneud ychydig o gyfarwyddo cynorthwyol a pheth comedi stand-yp.
Rhoddais gynnig ar stand-yp am y tro cyntaf gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion, ar ôl gweld galwad ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd yr alwad yn gofyn i bobl oedd wedi'u cofrestru'n ddall neu oedd â nam bach a hoffent gymryd rhan mewn gweithdy a chyfle i ysgrifennu comedi, dan arweiniad digrifwr stand-yp oedd hefyd â nam ar eu golwg.
Dim ond ryw bump neu ddeg munud o hyd oedd yr elfen perfformio. Ac felly dyma fi'n meddwl pam lai? A dyna lle dechreuodd fy nhaith greadigol.
Beth oedd Cam Creadigol Cyntaf felly?
Fy ngham creadigol cyntaf oedd perfformio fy gig comedi stand-yp cyntaf. Es i'r gweithdy yn Birmingham lle cefais gyfle i ddatblygu ysgrifennu fy nghomedi fy hun. Ar ôl wythnos o ysgrifennu a datblygu fy sgript, dyma pawb yn cyfarfod eto i berfformio o flaen cynulleidfa.
Cyn hynny, dim ond mewn gwasanaethau ysgol roeddwn i wedi perfformio, ac erioed wedi perfformio ar lwyfan na dychmygu y byddwn i'n ei wneud ar fy mhen fy hun. Roeddwn i mor nerfus, ond unwaith i'r jôcs cyntaf gael eu dweud a chael derbyniad da, dechreuais ymlacio. Mwynheais i’n fawr, ac rwy'n siŵr y gallwn i fod wedi gwneud set hirach! Rwy'n meddwl am nad yw fy ngolwg yn wych, doeddwn i ddim yn gallu gweld y gynulleidfa'n syllu'n ôl arna i, oedd yn ei gwneud hi'n haws!
Beth oedd yr her fwyaf?
Byddwn i'n dweud bod comedi yn llai o her, gan ei fod wastad wedi bod yn rhan o fy mywyd bob dydd. Yr her i mi oedd rhoi fy syniadau ar bapur, eu cofio ac yna gwneud iddyn nhw swnio’n naturiol ar y llwyfan. Mae angen i chi ymarfer a theimlo'n hyderus eich bod yn gyfarwydd â'ch deunydd, ond heb orymarfer i'r pwynt nad yw'n swnio'n naturiol.
Rwy'n credu hefyd y gallai nerfau fod wedi bod yn heriol, ond camais i fersiwn cymeriad o fi fy hun, persona ohonof i. Rwy'n credu bod hynny wedi fy helpu i ddianc rhag y nerfau oherwydd dydych chi ddim yn teimlo mor agored, mae'n teimlo fel actio cymeriad.
Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau i bobl sy'n awyddus i weithio yn y diwydiannau creadigol neu ddechrau gwneud stand-yp?
- Does dim llwybr euraidd i mewn i'r diwydiannau creadigol, mae'n rhaid i chi feddwl yn ofalus ble rydych chi eisiau ffitio i mewn. Gwnewch eich ymchwil, ymunwch â bwrdd, dilynwch bobl ar y cyfryngau cymdeithasol, cwrdd â chynifer o bobl â phosib, gwnewch eich hun yn hysbys, a dechreuwch o'r lle yna. Mae'n gymuned groesawgar iawn a bydd pobl yn helpu.
- Gydag ysgrifennu stand-yp, gwnewch yn siŵr nad yw'n teimlo fel rhywbeth mae'n rhaid i chi ei wneud. Gadewch i bethau setlo, gwnewch nodiadau, nodiadau llais, a gwrandewch ar straeon o'ch bywyd bob dydd. Yna, pan ddaw hi'n amser i ysgrifennu, mae gennych chi ddigon o ddeunydd yn barod i'w ddefnyddio.
- Rhowch amser i chi eich hun. Dyw'r pethau hyn ddim yn digwydd dros nos, ac mae'n rhaid i chi fod yn amyneddgar. Nid dim ond un drafft o ddrama neu sioe fydd gennych chi. Mae'n broses, ac allwch chi ddim rhuthro.
Pam dewis Caerdydd ar gyfer eich Cam Creadigol Cyntaf?
Mae cymuned greadigol Caerdydd yn gymuned mor braf i fod yn rhan ohoni. Mae'r bobl rwyf i wedi cwrdd â nhw ac wedi gweithio gyda nhw yn hyfryd, â'u traed ar y ddaear, ac yn barod i'ch cefnogi chi a'ch helpu chi i ddod o hyd i'ch lle. Waeth beth fo'r ffurf gelfyddydol greadigol, gall pawb helpu ei gilydd rywsut. Fel pobl greadigol, rydyn ni'n esblygu drwy'r amser. Rydw i wedi gwneud stand-up a gwaith ymgynghori, ond nawr mae gen i ddiddordeb mewn ysgrifennu a dod yn ddramatwrg theatr. Yng nghymuned y ddinas, mae gennym ni bobl greadigol gyda chyfoeth o brofiad mewn llawer o wahanol bethau, felly gallwn ddysgu cymaint oddi wrth ein gilydd.