Caerdydd Creadigol yn 'One Match'

Profile picture for user Beca Harries

Postiwyd gan: Beca Harries

Dyddiad: 5 August 2019

Wrth i Gwpan Pêl-droed Digartref y Byd ddechrau ym Mharc Bute y penwythnos diwethaf gyda chyfres o gemau a digwyddiadau, agorodd ‘One Match’, arddangosfa afaelgar gan ffotograffydd o Gaerdydd, Paul John Roberts, yn Ffotogallery ar Stryd y Castell. Mae’r arddangosfa’n archwilio bywydau unigolion digartref a’r rhai sydd wedi’u hallgáu’n gymdeithasol sy’n cymryd rhan yn y twrnamaint eleni.

Nod yr arddangosfa, a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Ffotogallery, yw codi ymwybyddiaeth o bobl sy’n wynebu digartrefedd a herio’r ystrydebau negyddol sy’n gysylltiedig â nhw. Cafodd Paul ei ysgogi i gofnodi hynt, helyntion a dathliadau’r digwyddiad a’i effaith ar y rhai a gymerodd ran.

Meddai Paul, sy’n arbenigo mewn ffotograffiaeth portreadau a pherfformiad ddogfennol, olygyddol a masnachol greadigol, “Roedd yn ffordd ddiddorol o daflu goleuni ar rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Roeddwn wedi clywed bod Cwpan Pêl-droed Digartref y Byd yn dod i Gaerdydd ac roeddwn yn meddwl y byddai’n syniad da i gofnodi’r chwaraewyr a fyddai’n cymryd rhan ynddo. Yn ffodus, cydiodd y syniad a ches i gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Ffotogallery i barhau. Roedd yn fraint i dreulio amser gyda’r unigolion hyn a dod yn ffrindiau gyda nhw.” 

Cofnododd Paul y cyfnod a oedd yn arwain at y digwyddiad gan ddal y buddion cymdeithasol a’r pleser sydd ynghlwm wrth bêl-droed - gôl-geidwaid yn dysgu ei gilydd, chwaraewyr yn cael hoe fach o hyfforddi, gan chwerthin gyda’i gilydd. Mae’r prosiect ffotograffig yn dilyn taith y chwaraewyr hyn, fel unigolion ac fel grŵp. Ar ôl treulio pedwar mis gyda chwaraewyr a hyfforddwyr tîm Cymru, mae Paul wedi cyfleu bywydau go iawn y bobl hyn i’r dim. O ystyried nad oedd ganddo gefnogaeth nac arian yn ystod tri o’r misoedd hynny, mae ymdrech Paul wrth greu ‘One Match’ yn dangos gwir ymroddiad.  

Meddai, “Gobeithio y bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth o’r ffaith mai pobl go iawn yw’r rhain, yn hytrach nag isadran o’r gymdeithas. Maen nhw’n unigolion call, deallus sy’n haeddu cyfle. Rwyf wedi profi llawenydd mawr a diobaith enbyd yn ystod y prosiect hwn. Mae’n peri i fi synfyfyrio a hunanymholi ynghylch sut mae dynolryw yn gwastraffu ein hadnoddau mwyaf gwerthfawr - sef ein gilydd.”  

Ceir ymdeimlad o rymuso sy’n dod drwodd yn yr arddangosfa, o gymryd rhan mewn rhywbeth pwysig a gweithio gyda’n gilydd. Er bod y portreadau’n tynnu sylw at eu teithiau personol, mae cyfres o ddarnau byr sy’n chwarae’n ddi-dor yn dangos eu heiliadau fel tîm ac mae ymdeimlad o frawdoliaeth yn amlwg i’w weld.  

Wrth siarad am yr hyn sydd nesaf, dywedodd Paul,  “Byddaf yn dogfennu’r chwaraewyr trwy gydol yr wythnos, felly cam un yw hwn. Rwy’n credu bod fy ymdrech i ddod i’w hadnabod dros y pedwar mis diwethaf wedi gwneud gwahaniaeth. Mae’n golygu eu bod yn teimlo y gallan nhw fod eu hunain o flaen y camera. Yn y tymor hir gobeithio y gallwn ni wneud gweithdai gyda rhagor o bobl ddifreintiedig fel y gallan nhw gael cyfle i brofi ffotograffiaeth.” 

Mae ‘One Match’ ar agor yn Ffotogallery ar Stryd y Castell tan 10 Awst rhwng 11am a 5pm. 

Cewch ragor o wybodaeth yma.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event