Jess Mahoney, Rheolwr Caerdydd Creadigol
Mis Hydref yw fy ail fis llawn yng Nghaerdydd Creadigol, a dyna ichi fis llawn digwyddiadau. Dechreuodd y mis mewn ffordd arbennig o chwaethus, drwy fynd i Flaenau Ffestiniog (ac i'r dyfodol) ar gyfer diweddglo mawreddog 'GALWAD' – sioe awyr agored amlieithog ac uchelgeisiol – yn rhan o UNBOXED. Dyma gamp logistaidd a oedd yn cyfuno arddangosfeydd golau trawiadol â brys gwleidyddol y dydd, heb sôn am daith i fyny chwarel lechi yn y tywyllwch – am brofiad! Ac nid yw pethau wedi tawelu – rydyn ni wedi mwynhau’r Gwobrau Technoleg Ariannol (Fintech), Parti Pen-blwydd IBI yn Arcêd Morgan, 'Driving Change' yn Roundhouse, taith o amgylch y BBC yng Nghaerdydd, gŵyl BEYOND, gŵyl Sŵn, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, gŵyl Llais a lansiad Media Cymru, rhaglen ymchwil a datblygu newydd Prifysgol Caerdydd gwerth £50 miliwn i gefnogi twf cynaliadwy yn y sector sgrin. Wow – rwy'n credu y bydda i’n gorfod gorwedd am eiliad!
Peth gwych oedd gallu gwneud cynifer o gysylltiadau newydd, ac mae'r holl bobl wych sy'n gweithio yn sector creadigol Caerdydd wedi rhoi cymaint o groeso wrth imi ymgartrefu'n iawn yn y swydd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y gwaith gwych y gallwn ei wneud gyda'n gilydd yn y dyfodol. Ond am y tro, wrth inni edrych ymlaen tuag at fis Tachwedd ac at oleuadau mis Rhagfyr a thu hwnt, rydyn ni hefyd yn falch o allu rhyddhau manylion cychwynnol Parti Nadolig Caerdydd Creadigol a gynhelir ddydd Iau 1 Rhagfyr yng nghlwb The Moon. Mae gennym nifer o ddigwyddiadau annisgwyl ar y gweill felly cadwch lygad barcud ar ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol i wybod rhagor yn ystod yr wythnosau nesaf. Mawr obeithiwn y gallwch chi ymuno â ni.
Carys Bradley-Roberts, Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Mae mis Hydref wedi bod yn fis hynod o gyffrous inni yng Nghaerdydd Creadigol – diolch i'r gymuned greadigol! Rydyn ni wedi bod mewn cynifer o ddigwyddiadau creadigol ac wedi cwrdd â phobl greadigol ysbrydoledig o bob cwr o'r ddinas. Ar ben hynny, rydyn ni wedi bod yn brysur yn cynllunio ein gweithgareddau ar gyfer y misoedd nesaf hyn – rwy’n edrych ymlaen yn fawr at rannu rhagor o fanylion â chi.
Mae fy uchafbwyntiau arbennig yn cynnwys gwylio cynhyrchiad dwyieithog Theatr y Sherman o Freuddwyd Nos Ŵyl Ifan / A Midsummer Night's Dream, lle bu'r Tylwyth Teg yn siarad yn Gymraeg. Dyna chi brofiad gwych a hudol. Uchafbwynt arall oedd mynychu lansiad Canllaw Gigiau Minty - am gyffrous! Braint arbennig hefyd oedd cael bod yn rhan o’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni. Mae’r Wobr yn rhan o ŵyl Llais, lle cawson ni’r cyfle i gydnabod 15 o artistiaid gwych a gyrhaeddodd restr fer y wobr yn ogystal â mwynhau perfformiadau gan Buzzard Buzzard Buzzard, Dead Method, Aderyn, Sage Todz ac enillwyr gwobr 2022, sef Adwaith. Cyn y perfformiadau, buon ni’n siarad â rhai artistiaid o Gaerdydd a enwebwyd ar gyfer y wobr, gan ddewis ein huchafbwyntiau o raglen gŵyl Llais. Drwy gydol y mis, rydyn ni wedi parhau i amlygu a chydnabod pobl greadigol Caerdydd yn ein cyfres Cam Creadigol Cyntaf, yng nghwmni’r pensaer Amanda Spence, yn ogystal â'n cyfres Pum munud gyda ..., yng nghwmni’r gwneuthurwr ffilmiau Charlie Grayson. Ar ben hyn, rydyn ni wedi bod yn anfon ein cylchlythyrau bob pythefnos i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y swyddi a'r cyfleoedd diweddaraf yn y ddinas. Mynnwch gip ar ein cylchlythyr diweddaraf.
Ymlaen at fis Tachwedd!