Mae Gŵyl Gerddoriaeth BBC 6 yn ymweld â Chaerdydd dros y penwythnos, gan ddod â llond y lle o enwogion cerddorol i’r ardal.
Mae’r digwyddiad, ynghyd â Gŵyl Fringe Cymru Greadigol, yn cyflwyno wythnos o sioeau a pherfformiadau ar hyd llwyfannau Caerdydd, sydd wedi’i chael hi’n anodd yn ystod y pandemig.
Dechreuodd Y Fringe yn The Moon ddydd Llun, gyda’r digwyddiad swyddogol BBC yn cychwyn ddydd Mercher Mawrth 30 yng Nghlwb Ifor Bach. Mae’r cyfuniad yma’n arddangos y gorau o’r hyn sydd gan Gaerdydd i’w gynnig, trwy roi llwyfan cenedlaethol i’w cherddorion a’i lleoliadau perfformio ochr yn ochr â rhai o’r artistiaid gorau yn y byd.
Mae cyflwyno’r digwyddiad yn dangos brwdfrydedd Caerdydd fel dinas gerddoriaeth. Yn 2019, cafodd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd ei greu i warchod a hybu treftadaeth gerddorol y ddinas. Gyda chymaint o lwyfannau bach poblogaidd ledled y wlad yn cau neu’n cael eu gorfodi i addasu dan amgylchiadau newydd, mae arddel mannau diwylliannol y ddinas yn hanfodol am ddyfodol y sîn gerddoriaeth.
Dywedodd Rob Toogood, perchennog clwb nos a llwyfan Fuel,
Ry’n ni’n hapus iawn i fod yn rhan o’r ŵyl. Mae’n dda cael bod yn rhan o ddigwyddiad sy’n denu sylw cenedlaethol i’r hyn sydd gan sîn gerddoriaeth Caerdydd i’w gynnig.
Cafodd y llun o’r clwb nos a’r lleoliad cerddoriaeth Fuel ei ddarlunio gan Jack Skivens ar gyfer Minty's Gig Guide.
Mae’r Fringe yn cynnig y cyfle perffaith am lechen lân i un lleoliad, gan ddod â rhywbeth newydd i fywyd cerddorol Caerdydd gyda’r nos. Mae Carpe Noctem yn agor ar Stryd Charles ddydd Gwener 1 Ebrill, ac yn cyflwyno ‘Bitch, please!’ fel ei ddigwyddiad cyntaf. Wedi’i lleoli yn hen gartref bar sioe Minksy, bydd Carpe Noctem yn gartref newydd i gerddoriaeth electronig annibynnol yn y brifddinas.
Mae Bill Cummings, golygydd y cylchgrawn ar-lein newydd ‘God Is In The TV’ yn dweud bod yr ŵyl yn arddangos popeth sy’n mynd ymlaen yng Nghaerdydd:
Mae yna lawer o dalent newydd yn y genres gwahanol yng Nghaerdydd. Fe wnewch chi glywed y term Cool Cymru 2.0 ond dydw i ddim yn hoffi’r disgrifiad yna. Dwi’n meddwl amdani fel ton newydd Cymreig. Mae yna gymaint o bethau gwych yn digwydd yma.
I’r cantorion a cherddorion sydd yn barod yn weithgar yn sîn gerddoriaeth Caerdydd, mae’r ŵyl yn cynnig cyfle i arddangos eu doniau o flaen cynulleidfaoedd newydd.
Dywedodd Foxxglove, fydd yn perfformio yn Tiny Rebel ddydd Gwener 1 Ebrill:
Dwi’n meddwl bydd hi’n enfawr i sîn gerddoriaeth Caerdydd ac fe fydd hi’n arddangos y ddawn sydd yma. Mae yna amrywiaeth eang o dalent ar draws yr holl genres a chefndiroedd. Mae hi’n ysbrydoledig iawn i’w gweld.
Wrth i ddwy flynedd o gigiau’n cael eu canslo a’u gohirio ddod i ben – cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod holl gyfyngiadau Covid wedi gorffen yng Nghymru ddydd Llun Mawrth 28 – mae’n deg dweud bod y ddinas yn awchu i ddychwelyd i’w gorffennol bywiog cyn-Covid, trwy chwysu mewn ystafelloedd bach a neuaddau mawr gyda’n gilydd.