Yn siarad yn y digwyddiad roedd:
- Ar ran Collective Cymru, ymunodd Will Humphrey (Sugar Creative) â ni i rannu gwybodaeth a chymryd cwestiynau am y cyfleoedd cyfredol i ymuno â'r Tîm Prosiect. Darganfyddwch fwy am y chwe rôl a hysbysebir yma: https://collective.cymru/opportunities/
- Bydd Innovate UK, rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, yn buddsoddi hyd at £2.5 miliwn mewn prosiectau arloesol. Maen nhw'n cynnig pecyn o gymorth wedi'i thargedu ar gyfer twf fel y gall busnesau creadigol uchelgeisiol gyrraedd eu potensial. Ewch i'w gweld a chael rhagor o wybodaeth am y gronfa: https://ktn-uk.org/opportunities/creative-industries-fund-fast-start-business-growth-pilot/. Gallwch hefyd weld sut i wneud cais am Innovate UK EDGE a chyllid yma https://apply-for-innovation-funding.service.gov.uk/competition/919/overview#summary
Gallwch ddarganfod mwy am y ddau gyfle trwy ddilyn y dolenni uchod.
Ymhlith y cyfleoedd a rannwyd o'r gymuned roedd:
- Mae ProMo-Cymru yn gweithio i sicrhau bod pobl ifanc a chymunedau yn cael eu hysbysu, yn ennyn diddordeb, yn cysylltu, ac yn cael eu clywed. Maen nhw'n cynnig cyngor, eiriolaeth a gwybodaeth ac yn awyddus i greu cysylltiadau rhwng pobl a gwasanaethau gan ddefnyddio creadigrwydd a thechnoleg ddigidol. Ceir rhagor o wybodaeth yma: https://www.promo.cymru/ neu ebostiwch nhw dean@promo.cymru
- Mae Cooked Illustrations yn ymchwilio i sut y gall meddwl yn greadigol a chyfathrebu uno gwaith gyda chymunedau ac ystyriaethau cynaladwyedd (cynhyrchu bwyd trefol, permaddiwylliant, amaeth-goedwigaeth, bioamrywiaeth, ac ati). Maen nhw'n awyddus i sefydlu perthnasoedd cydweithredol gyda phobl yn unrhyw rai o'r meysydd hyn a gweld sut y gallai'r Pethau creadigol hyn weithio. Ewch i gael golwg yma: https://www.cookedillustrations.com/ neu anfonwch neges i cookedillustrations@gmail.com
- Haf o Wên ym Mhafiliwn y Grange - gweithgaredd bob dydd dros wyliau'r haf gyda chyfanswm o 42 o weithgareddau. Gyda chyllideb o £100 i bob gweithgaredd ar gyfer ymarferydd a chyllideb fach ar gyfer deunyddiau, maen nhw am glywed gan unrhyw un a hoffai eu helpu i gyflawni gweithgareddau neu sydd ag unrhyw syniadau difyr ar eu cyfer. Cysylltwch â nhw: ThomasL90@caerdydd.ac.uk
- Mae Caerdydd Creadigol yn curadu rhestr o leoedd y gall pobl greadigol eu llogi yn y ddinas. Os hoffech ychwanegu eich lle at y rhestr - ebostiwch Suttonv@caerdydd.ac.uk