Angen! Cynnig! Cydweithio! - nodiadau Gorffenaf 2021

Yn ein pumed sesiwn Angen! Cael! Cydweithio! i gysylltu a chydweithio ag eraill ar draws y gymuned greadigol, gwnaethom glywed sôn am yr holl gyfleoedd hyn.

List of opportunities shared at collaborate event

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 7 July 2021

Yn siarad yn y digwyddiad roedd:

  • Matt Browning o Ffederasiwn y Diwydiannau Creadigol a Creative England yn ymuno â ni i rannu gwybodaeth am eu partneriaeth newydd gyda'r Start Up Loans Company i gyflwyno argaeledd cyllid busnes cyfnod cynnar.  Mae Ffederasiwn y Diwydiannau Creadigol a Creative England (rhan o grŵp Creative UK) wedi ymrwymo i alluogi talent a busnesau creadigol i ffynnu.

  • Catherine Angle, Rheolwr Rhaglen y Celfyddydau Gweledol a Byw yn Chapter Arts, yn siarad am y comisiwn galwadau agored taledig cyfredol ar gyfer gŵyl Experimentica 2021. Maent yn chwilio am geisiadau gan artistiaid sydd wedi'u lleoli yn y DU sy'n ymwneud â chreu perfformiad arbrofol, ysgrifennu, sain, ffilm a fideo, dawns, theatr neu unrhyw gyfrwng byw arall. Maent yn awyddus i glywed gan artistiaid sydd eisiau cymryd rhan mewn trafodaethau ynghylch eu hymarfer mewn amgylchedd cefnogol a chymdeithasol, sydd am rannu syniadau, ehangu dealltwriaeth a myfyrio ar brofiadau yn ystod yr ŵyl.

Screengrab of Zoom meeting with faces holding up cards with their name and job title on

Yn siarad yn y digwyddiad roedd:

 

  • Mae Catrin Greaves yn chwilio am bobl rhwng 16 a 25 oed yng Nghaerdydd sy'n ystyried eu hunain yn fenywod i gymryd rhan mewn rhai trafodaethau a gweithdai creadigol dros Zoom, a hynny’n rhan o’i hymchwil a fydd yn sail i’w traethawd gradd meistr ym Mhrifysgol Caerdydd. Os oes gennych chi neu unrhyw un rydych chi'n ei adnabod ddiddordeb mewn cymryd rhan, ebostiwch GreavesCM1@caerdydd.ac.uk.

 

  • Prosiect Cadw’n Ddiogel: Mae ProMo-Cymru’n chwilio am bobl ifanc a all fod â diddordeb mewn mynychu grwpiau ffocws i leisio eu barn ar faterion sy'n ymwneud â gwahanol bynciau er mwyn cyfrannu at ymchwil i wybodaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru. Os ydych chi neu unrhyw un rydych chi'n ei adnabod yn gweithio gyda grwpiau o bobl ifanc, ebostiwch dean@promo.cymru erbyn dydd Llun.
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event