Bydd ein Hystafell Ddosbarth Caerdydd Creadigol gyntaf o 2025 ar y thema 'Ysgrifennu Ffuglen' a gyflwynir gan yr awdur Tiffany Murray.
Mae hwn yn weithdy ysgrifennu undydd unigryw ar gyfer awduron o bob lefel.
Yn y gweithdy hwn byddwn yn cael hwyl yn archwilio sut i greu a chyfathrebu cymeriad i'ch darllenydd. Byddwn hefyd yn chwarae gyda'r pethau sydd ei angen ar unrhyw awdur: stori, strwythur, deialog a lleoliad. Bydd y diwrnod yn gefnogol, yn gynhyrchiol, yn greadigol ac yn hwyl. Byddwch yn cael lle i syrthio mewn cariad â'ch ysgrifennu eto. Byddwch yn barod i arbrofi ac ysgrifennu!
Roedd cofiant Tiffany Murray, My Family and Other Rock Stars yn llyfr yr wythnos yn y Guardian, Sunday Times a'r Observer. Mae ei nofelau Diamond Star Halo, Happy Accidents a Sugar Hall wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Wodehouse Bollinger ac wedi derbyn Gwobr Roger Deakin am ysgrifennu byd natur. Mae Tiffany yn rhedeg y rhaglen Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli, mae hi wedi bod yn Gymrawd Gŵyl y Gelli, yn ysgolhaig Fulbright, ac yn Uwch Ddarlithydd. Mae ei chyfres, ‘Hulda’s Café’ ar gael ar BBC Radio 4.