Ystafell Ddosbarth Caerdydd Creadigol gyda Tiffany Murray (Ysgrifennu a chyhoeddi)

02/05/2025 - 10:15
Tramshed Tech, Cardiff
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Mae Ystafelloedd Dosbarth Caerdydd Creadigol yn gyfres newydd o ddigwyddiadau sy’n galluogi pobl greadigol i ymchwilio thema benodol yn ddyfnach mewn gweithdai grwpiau bach gyda hwylusydd profiadol. Gyda chymhorthdal ​​gan Gaerdydd Creadigol, mae holl ddigwyddiadau Ystafelloedd Dosbarth yn £10 yn unig i fynychu.

Ym mis Mai eleni bydd Gŵyl y Gelli, gŵyl lenyddiaeth fwyaf y DU, yn dychwelyd yn y Gelli Gandryll, tref ym Mhowys. I nodi’r ŵyl ac i gyd-fynd â thema Caerdydd Creadigol ar gyfer mis Mai (cyllid a chodi arian), rydym wedi trefnu Ystafell Ddosbarth Caerdydd Creadigol i archwilio arfer proffesiynol a chyhoeddi mewn llenyddiaeth.

Dyma weithdy ysgrifennu a chyhoeddi undydd unigryw ar gyfer awduron sydd eisoes wedi cychwyn ar eu taith ysgrifennu. Nid oes angen i chi fod wedi cyhoeddi gwaith yn flaenorol i fynychu.

Yn y gweithdy hwn byddwn yn cael hwyl yn archwilio sut i ddatblyg. Byddwn hefyd yn chwarae gyda'r pethau sydd ei angen ar unrhyw awdur: stori, strwythur, deialog a lleoliad. Bydd y diwrnod yn gefnogol, yn gynhyrchiol, yn greadigol ac yn hwyl. Byddwch yn cael lle i syrthio mewn cariad â'ch ysgrifennu eto.

Roedd cofiant Tiffany Murray, My Family and Other Rock Stars yn llyfr yr wythnos yn y Guardian, Sunday Times a'r Observer. Mae ei nofelau Diamond Star Halo, Happy Accidents a Sugar Hall wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Wodehouse Bollinger ac wedi derbyn Gwobr Roger Deakin am ysgrifennu byd natur. Mae Tiffany yn rhedeg y rhaglen Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli, mae hi wedi bod yn Gymrawd Gŵyl y Gelli, yn ysgolhaig Fulbright, ac yn Uwch Ddarlithydd. Mae ei chyfres, ‘Hulda’s Café’ ar gael ar BBC Radio 4.

Archebu lle.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event