Darperir ein cyflwyniad gan yr Athro Colin Riordan, a benodwyd yn Is- Ganghellor a Llywydd Prifysgol Caerdydd ym mis Medi 2012, ac a welodd botensial Caerdydd Creadigol yn gynnar, gan rannu ei ddyheadau ar gyfer ffocws y brifysgol ar ymchwil a’i chenhadaeth ddinesig, a’i ddyheadau ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, i fachu ar y cyfleoedd a gynigir gan economi greadigol y DU sy’n dod i’r amlwg. Er gwaethaf yr holl ddinistr a achoswyd gan COVID-19, nid oes amheuaeth y bydd yr economi ddigidol, greadigol hon hyd yn oed yn bwysicach yn y degawd sy’n dilyn pen-blwydd Caerdydd Creadigol yn bump oed na’r degawd a welwn yn y drych ôl.
Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o fod yn gartref i’r gymuned o ymchwilwyr ac ymarferwyr a oedd yn cydnabod yr angen i ddarparu arweinyddiaeth er mwyn dod â sector creadigol Caerdydd – diwydiant, ymchwil, addysg a pholisi – at ei gilydd mewn ffyrdd mwy strategol. Fel menter flaenllaw, mae Caerdydd Creadigol yn cyfuno arbenigedd y brifysgol mewn ymchwil a datblygu â’i phwyslais ar arloesi a’i hymrwymiad i genhadaeth ddinesig. Mae hyn wedi galluogi Prifysgol Caerdydd i siarad yn wybodus, yn falch a chydag effaith mewn trafodaethau am strategaethau diwylliannol a busnes y dinas-ranbarth.
Nodweddion unigryw lleoedd y mae tîm Caerdydd Creadigol wedi mynd ati i’w deall ac ymateb iddynt cystal. Beth ynglyˆn â gweithlu creadigol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd sy’n ei wneud mor bwysig i’r ddinas, y rhanbarth, Cymru a’r byd? Beth allai dinasyddiaeth greadigol olygu i unigolion a’r rhanbarth? Beth oedd yr heriau penodol sy’n wynebu dinas o sawl endid creadigol bach? Pa fath o gysylltiadau allai gael eu ffurfio gyda mwyaf o werth iddynt i gyflawni màs critigol ac ymdeimlad o hunaniaeth a brand cyffredin?
Pa fath o raglen ariannu greadigol a allai ysgogi’r syniadau arloesol gorau? Drwy ymgynghori, cydgynhyrchu a chreu rhwydweithiau cymheiriaid (partneriaid, rhanddeiliaid, cyllidwyr a chefnogwyr), mae Caerdydd Creadigol wedi cynorthwyo’r sector i ddod o hyd i atebion i’r cwestiynau hyn, wrth aros yn barod i ymateb i heriau anarferol ac i’r amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd newidiol sydd wedi nodi blwyddyn ei ben-blwydd.
Yn 2018, ynghyd â phartneriaid eraill, chwaraeodd Caerdydd Creadigol ran allweddol wrth sicrhau cyllid gan Raglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) ar gyfer Clwstwr – sef prosiect i greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd ar gyfer sector sgrin a newyddion cynaliadwy yn Ne Cymru a fydd, o ganlyniad, mewn gwell sefyllfa i gystadlu mewn diwydiant wedi’i ddominyddu gan gryfder integredig cwmnïau cyfryngau byd-eang. Wrth i Caerdydd Creadigol gyrraedd y pen-blwydd hwn, mae eto wedi ymgymryd â rôl flaenllaw, gyda charfan gref o bartneriaid, wrth ddatblygu cais Cryfder mewn Lleoedd Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) ar raddfa fawr, a’i nod yw adeiladu ar lwyddiant Clwstwr a sefydlu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel canolfan fyd-eang ar gyfer arloesi yn y cyfryngau sy’n tyfu talent, yn cysylltu asedau creadigol, ac yn chwarae rhan allweddol wrth ddiffinio ymdeimlad y rhanbarth o le – i’w ddinasyddion amlddiwylliannol ei hun ac i weddill y byd.
Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae uchelgais Caerdydd Creadigol yn parhau i helpu i ddiffinio a siapio’r clwstwr, ecosystem ac injan sy’n ffurfio bywyd creadigol prifddinas-ranbarth Cymru.