Ymunwch â'n Bwrdd

Cyflog
Unpaid
Location
Ar-lein & Penarth/Cardiff
Oriau
Other
Closing date
30.11.2025
Profile picture for user Yvonne Murphy

Postiwyd gan: Yvonne Murphy

Dyddiad: 7 November 2025

Ymunwch â'n Bwrdd

Rydym yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â bwrdd Omidaze Productions Ltd a helpu i’n harwain ar gam nesaf ein taith. Os ydych chi'n credu yng ngrym y celfyddydau i hysbysu, ysbrydoli a chreu newid cymdeithasol, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych chi.

Does dim angen profiad blaenorol ar fwrdd arnoch – dim ond parodrwydd i gyfrannu, dysgu a chefnogi ein gweledigaeth.

Pwy yw Omidaze?

Sefydlwyd Omidaze (Oh My Days!) Productions yn 2008 i ddefnyddio theatr, y celfyddydau a chreadigrwydd i rymuso pobl a herio’r statws quo.

Rydym yn gwmni bach, a arweinir gan werthoedd, ym Mhenarth yn ne Cymru, ac yn gweithio mewn tri maes:

  • Cynnwys Creadigol (byw a digidol)
  • Dysgu Creadigol
  • Ymgynghoriaeth

O ysgolion haf Shakespeare i ailddehongliadau radical o'r clasuron, ac erbyn hyn brosiectau mentrus fel The Democracy Box a The Talking Shop, rydym bob amser wedi defnyddio'r celfyddydau i ofyn cwestiynau mawr – ac i agor drysau i bobl a lleisiau sy’n aml yn cael eu tangynrychioli.

Daethom yn Omidaze Productions Ltd yn 2025 – menter gymdeithasol a chwmni nid-er-elw cyfyngedig drwy warant – i adlewyrchu ein gwerthoedd a'r byd rydym am helpu i’w lunio.

Am bwy rydym yn chwilio?

Rydym yn adeiladu Bwrdd Cyfarwyddwyr newydd i helpu i'n harwain i'r dyfodol.

Rydym yn chwilio am hyd at bum aelod newydd i'r bwrdd, ac rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl sydd:

  • Yn meddu ar brofiad byw a gaiff ei dangynrychioli mewn mannau lle gwneir penderfyniadau
  • Efallai nad oes ganddynt brofiad o fod ar fwrdd nac o lywodraethu, ond maent yn awyddus i ddatblygu eu hunain a chyfrannu
  • Yn angerddol dros gyfiawnder cymdeithasol, gweithredu dros yr hinsawdd, ac ymgysylltu democrataidd
  • Yn credu, fel ninnau, ym mhŵer y celfyddydau a diwylliant i ddylanwadu ar gymdeithas

Rydym hefyd yn croesawu'r rhai sydd â sgiliau a phrofiad mewn meysydd fel:

  • Cyllid / Cyfrifeg
  • Cyfreithiol / Llywodraethu
  • Adnoddau Dynol
  • Technoleg / Deallusrwydd Artiffisial ac arloesedd digidol

Ond peidiwch â chael eich digalonni os nad yw eich sgiliau na'ch cefndir yn cyd-fynd â rôl draddodiadol ar fwrdd – gwerthfawrogwn amrywiaeth o safbwyntiau, nid cymwysterau proffesiynol yn unig.

Ein gwerthoedd

Yn Omidaze, rydym:

  • Yn cydweithio, cyd-greu a phartneru
  • Yn rhoi creadigrwydd wrth wraidd y ffordd rydym yn gweithio ac yn dysgu
  • Yn anelu at ysgogi, grymuso, hysbysu ac ysbrydoli
  • Yn cael ein harwain gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig

Cawn hefyd ein gyrru gan y gred bod mynediad at y celfyddydau a diwylliant yn hawl sylfaenol, ochr yn ochr â mynediad at addysg ac iechyd.

Beth mae bod yn aelod o'r bwrdd yn ei olygu?

Fel aelod o'r bwrdd (Cyfarwyddwr), byddwch yn cefnogi ac yn herio’r cwmni i aros yn driw i'w genhadaeth a'i werthoedd, yn gwneud penderfyniadau strategol, ac yn ein helpu i gynyddu ein heffaith.

Bydd angen ichi fynychu cyfarfodydd y bwrdd bob chwarter (ar-lein yn bennaf), cyfrannu at drafodaethau, a bod yn ffrind beirniadol i'r cwmni a'i arweinwyr.

Swydd wirfoddol, ddi-dâl yw hon.

Rydym wedi ymrwymo i greu bwrdd cynhwysol a chefnogol. Byddwn yn darparu sesiwn anwytho / sefydlu lawn, a chymorth a hyfforddiant parhaus yn ôl yr angen.

Yn barod i fynegi diddordeb?

Os hoffech ddysgu rhagor am y cyfle hwn neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â ni.

Gallwch anfon eich mynegiant o ddiddordeb (gall hwn fod yn ysgrifenedig, fideo neu sain – pa un bynnag sydd hawsaf i chi) i: omidaze@outlook.com

Dywedwch wrthym:

  • Pam mae gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r bwrdd?
  • Yr hyn rydych chi'n teimlo y gallwch chi ei gyfrannu
  • Unrhyw beth yr hoffech ei ofyn neu ei angen i gefnogi eich cais

Y dyddiad cau ar gyfer mynegiadau o ddiddordeb yw 30 Tachwedd 2025.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych!

 

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.