Mae gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru swyddogaeth codi arian fechan, sydd wrth ei natur yn cael ei rhedeg gan gyffredinolwyr codi arian. Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi nodi ac wedi ymrwymo i ddatblygu rhoddion unigol ac aelodaeth sydd, yn ein barn ni, â'r potensial i gynnig elw gydol oes ar fuddsoddiad.
I gefnogi hyn, rydym yn chwilio am gymorth strategol i ddatblygu gallu sefydliadol yn y maes hwn, gan ddatblygu strategaeth y gellir ei rhoi ar waith o fewn strwythurau sefydliadol presennol.
Yn benodol, rydym yn chwilio am ymgynghorydd i:
- Cadarnhau'r potensial ar gyfer datblygu rhoddion unigol ar bob lefel.
- Nodi cynulleidfaoedd blaenoriaeth.
- Cadarnhau a phrofi, yr achos dros gefnogaeth, a naratifau ymgyrch allweddol.
- Model taith rhoddwyr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, gan gynnwys awgrymiadau ar gyfer tyfu a chadw rhoddwyr.
- Datblygu saernïaeth ymgyrchu gan gynnwys sicrhau cysylltiadau â'n systemau CRM a chyllid.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â'r Cod Codi Arian, rheoliadau CThEM a deddfwriaeth Diogelu Data Cyffredinol.
- Cadarnhau'r uchod mewn strategaeth gyda thargedau a chyllidebau, ac amserlen ar gyfer gweithredu.
- Cyflwyno sesiwn hyfforddi i randdeiliaid allweddol CCIC ar ddiwedd yr Ymgynghoriaeth.
- Adrodd yn fisol ar gynnydd i'r Prif Weithredwr.