Cyfarfod y clwstwr technoleg drochi yn ne Cymru
Yn dilyn llwyddiant cyfarfod cyntaf VRSW ar gyfer cymuned y dechnoleg drochi sydd ar dwf yn ne Cymru, mewn partneriaeth ag Orchard Media ac Events Group Ltd yn ystod Dinasoedd Digidol BBC, mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd yn cwrdd eto yn ystod Gŵyl Arloesedd Cymru.
Bydd y clwstwr yn dod ynghyd ym Mhrifysgol De Cymru i glywed gan y prif siaradwyr, Ian Thomas o Talespinners.
Bydd cyfle wedi hynny i rannu’n grwpiau i drafod dulliau trochi o adrodd straeon a sain trochi yn ogystal â mwynhau arddangosiadau gan fyfyrwyr Prifysgol De Cymru sy’n gweithio yn y meysydd hyn.
Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig o ran mynediad, ebostiwch creativecardiff@caerdydd.ac.uk.