Uwch Olygydd Newyddion Digidol S4C

Cyflog
Cystadleuol
Location
Canolfan S4C Yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ
Oriau
Full time
Closing date
19.08.2022
Profile picture for user Swyddi S4C

Postiwyd gan: Swyddi S4C

Dyddiad: 8 August 2022

Uwch Olygydd Newyddion Digidol S4C

Mae gwasanaeth newyddion digidol S4C yn ehangu, ac yn chwilio am uwch olygydd i arwain tîm o newyddiadurwyr i wireddu ein strategaeth newyddion digidol am y  blynyddoedd i ddod.

Dyma gyfle unigryw i arwain gwasanaeth aml blatfform fydd, ymhlith pethau eraill, yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu ein darpariaeth ar gyfryngau cymdeithasol.

Yn arweinydd wrth reddf byddwch yn ysgogi tîm o newyddiadurwyr i, lawnsio’n gwasanaeth ar blatfformau newydd a chynnal a thyfu’r gwasanaeth sydd eisoes yn bodoli.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â greddf newyddiadurol gryf a syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddenu dilyniant newydd yn enwedig ymysg pobol ifanc.

Bydd gennych brofiad golygyddol helaeth, trwyn am stori a dealltwriaeth o’r tirlun newyddiadurol digidol yng Nghymru.

Bydd gennych hefyd dealltwriaeth o’r gyfraith a hawlfraint yn ymwneud â’r wasg a’r cyfryngau.

Bydd disgwyl i chi allu  adeiladu perthnasau positif gyda phobl a sefydliadau er mwyn datblygu a chynnal partneriaethau.

Mae sgiliau ieithyddol cryf yn hanfodol i’r rôl i allu sicrhau safon a chywirdeb, yn ogystal â gosod tôn ac arddull priodol ar gyfer y gwasanaeth.

Byddwch yn unigolyn all ysbrydoli newyddiadurwyr i feddwl yn greadigol wrth  gynhyrchu cynnwys o safon i gynulleidfa eang.

Byddwch yn arddel gwerthoedd cynhwysol a byddwch yn frwd dros sicrhau bod amrywiaeth o bob math yn cael ei adlewyrchu gan y gwasanaeth.

Os oes gennych chi'r sgiliau a'r profiad i fynd a’r gwasanaeth o nerth i nerth byddem yn hoffi clywed gennych.

Manylion eraill

Lleoliad:                 Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ.  Rydym yn gweithredu polisi gweithio hybrid.

Cyflog:                   Cystadleuol

Cytundeb:              Parhaol

Oriau gwaith:         35 ¾ yr wythnos.  Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod prawf:        6 mis

Gwyliau:                 Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn:                Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Gwener 19 Awst 2022 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV.

Mi fydd cyfweliadau yn cael ei chynnal ar ddydd Llun 22 Awst 2022.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth

Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol. 

Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau.  Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.