Pa gyngerdd sy'n dal i sefyll allan fel yr un orau rwyt ti wedi’i gweld yn y ddinas? Beth oedd yn gwneud perfformiad y band/artist yma mor rhyfeddol?
Mae’n gyfartal rhwng tair cyngerdd dwi wedi'u gweld yng Nghaerdydd, gan eu bod i gyd yn wych am wahanol resymau. Gwelais y Stereophonics, Tom Jones, a bandiau eraill yn Stadiwm Principality yn 2022, ac es i gyda fy nhad, sy’n ffan enfawr o’r Stereophonics. Yn bersonol, roedd cael mwynhau’r profiad yma gyda fe, a gweld y band yn eu mamwlad yn foment arbennig.
Yn debyg i Erykah, gwelais i Harry Styles yn Stadiwm Principality yn 2023 hefyd, gyda fy ffrindiau gorau o'r Brifysgol. Roedd mor arbennig dawnsio yng nghefn y pydew gyda fy ffrind Joanna, a throelli o gwmpas gyda'n gilydd i'w gân 'Satellite', a oedd yn atgof mor greiddiol i'r ddwy ohonon ni.
Yn fwyaf diweddar, gwelais Declan McKenna yn y Neuadd Fawr, ym Mhrifysgol Caerdydd. Roeddwn i wedi aros mor hir i'w weld mewn 'lleoliad gig', oherwydd roeddwn i colli allan sawl gwaith oherwydd y cyfnod clo ac ar ôl cael Covid fy hun. Roedd set Declan y noson honno yn anhygoel, a chwaraeodd lawer o ganeuon oddi ar fy hoff albwm 'Zeros'. Treuliodd fy ffrindiau a fi y rhan fwyaf o'r noson yn neidio o gwmpas ac yn canu i'r holl diwns, a oedd yn brofiad mor hwyl.
Wyt ti wedi bod i lawer o gyngherddau'r artistiaid hyn?
Gwelais i Declan McKenna yn Victorious Festival yn Portsmouth a Southsea yn 2022, a oedd yn anhygoel gan taw dyma'r tro cyntaf i fi ei weld. Serch hynny, dim ond 30 munud oedd ei set, felly roeddwn i mor awyddus i weld un o’i gigs. Gwelais i brif leisydd y Stereophonics, Kelly Jones, yn ei sioe unigol yng Nghaerfaddon ’nôl yn 2019, a fynychais gyda fy nhad hefyd – mae e’n ffan mawr! O ran Harry Styles, hwn oedd fy nhro cyntaf yn ei weld, ac roedd ei weld mor agos at adref yn fwy arbennig fyth.
Beth oedd mor arbennig am eu sioeau yng Nghaerdydd? Oes gennyt ti unrhyw straeon hwyl neu gofiadwy o'r noson honno?
Roedd cyngerdd y Stereophonics mor arbennig oherwydd y balchder Cymreig roeddech chi’n gallu ei deimlo'n llenwi’r stadiwm. Roedd y lein-yp yn cynnwys bandiau o Gymru yn unig, ac roedd cael Tom Jones i ganu cyn i’r Stereophonics ddod ’mlaen yn wirioneddol anhygoel. Daeth Kelly Jones â Tom Jones allan i ganu 'Mama Told Me Not To Come' yn ystod eu set, ac roeddech chi wir yn gallu teimlo bloedd y dorf yn cydganu.
Bydd cyngerdd Harry Styles bob amser yn atgof creiddiol i fi oherwydd yr hwyl ges i a Joanna yn dawnsio i’w gerddoriaeth, yn ogystal ag ymuno â’r llinell gonga enfawr yn ystod ei gân ‘Treat People with Kindness’. Hwn oedd fy nhro olaf gyda Joanna am sbel cyn iddi symud i ffwrdd gyda’i gwaith, felly roedd yn ffordd arbennig iawn o ffarwelio â hi, ac yn ei mamwlad hefyd. Daeth y merched i gyd i’m ‘patsh’ i i brofi ei gerddoriaeth gyda'n gilydd, a oedd yn deimlad arbennig iawn.
Chwifiodd Declan McKenna faner Cymru yn ei gig, gan mai ni oedd lleoliad cyntaf ei daith. Fel rhywun a fagwyd ar draws y dŵr yng ngogledd Gwlad yr Haf, roedd Caerdydd yn rhywle roeddwn i’n ymweld ag ef yn aml, felly rwy'n teimlo ymdeimlad o falchder pan rydw i mewn gig draw fan hyn. Pan ddaeth Declan â'r faner allan, cadarnhaodd y teimlad yna i fi.
Yn ogystal, wrth i ni edrych ’mlaen at fwy o gerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd yn y dyfodol, pa artist neu fand rwyt ti’n gyffrous iawn amdano?
Fyddwn i ddim yn galw fy hunan yn ‘Swifite’ ond dwi’n edrych ’mlaen i Taylor Swift ddod i Gaerdydd oherwydd mae’n wych ei bod hi wedi dewis Caerdydd fel un o’i dinasoedd, yn enwedig gan fod nifer o artistiaid mawr yn anghofio Caerdydd wrth ddewis lleoliadau ar gyfer eu teithiau. O ran y gerddoriaeth dwi’n gwrando arni, dwi’n gyffrous iawn i eistedd ym Mharc Bute a chlywed rhai o’m hoff fandiau fel Nothing But Thieves ac Idles. Fel merch a aned ym Mryste, ffurfiwyd Idles yn y ddinas, felly bydd hi’n cŵl iawn cael profi eu sŵn nhw yma! Rydw i hefyd yn annog pawb i brynu tocynnau ar gyfer Nothing But Thieves - rydw i wedi eu gweld nhw ddwywaith ac maen nhw’n anhygoel. Mae gan Connor, y prif leisydd, un o’r lleisiau gorau mewn roc amgen heddiw.