Tu Hwnt i Eiriau: Hyfforddiant Cyfathrebu Cynhwysol ar gyfer y Sector Digwyddiadau

10/02/2025 - 10:00
Cymru
Profile picture for user Hijinx

Postiwyd gan: Hijinx

zade.campbell-davies@hijinx.org.uk

Rydym yn falch o lansio rhaglen hyfforddiant ryngweithiol newydd, Tu Hwnt i Eiriau, a ddyluniwyd i gryfhau cyfathrebu a hygyrchedd ar draws y sectorau digwyddiadau a lletygarwch.

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru trwy Digwyddiad Cymru, mae’r hyfforddiant penodol hwn yn anelu at wella’r ffordd y mae timau digwyddiadau’n rhyngweithio gyda phobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth, gan greu profiadau sy’n fwy cynhwysol a chroesawus mewn digwyddiadau ar draws Cymru a thu hwnt.

Trwy chwarae rhan deinamig, ymarferion drama a thrafodaethau grŵp gydag actorion Hijinx a hwyluswyr, bydd y rhai fydd yn cymryd rhan yn cael dealltwriaeth ddyfnach o sut i addasu eu harddull cyfathrebu i weddu i anghenion amrywiol y rhai fydd yn bresennol a chreu amgylchedd mwy cynhwysol.

Rydym yn rhedeg 5 o sesiynau undydd mewn 4 lleoliad ar draws Cymru yn Chwefror a Mawrth.

  • Caerdydd (Y Ganolfan Chwaraeon Genedlaethol) ar 10 Chwefror a 4 Mawrth
  • Wrecsam (Tŷ Pawb) ar 21 Chwefror
  • Caerfyrddin (Yr Egin) ar 18 Mawrth
  • Dyddiad a lleoliad yn y canolbarth i’w cadarnhau

Mae lleoedd ar gael i’w harchebu nawr.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event