Mae Thania yn goreograffydd, perfformiwr, addysgwr ac artist dawns o Puerto Rico, sydd ar hyn o bryd yn byw yng Nghaerdydd, ar ôl bod yn Efrog Newydd, yr Alban a Buenos Aires. Ar hyn o bryd, mae hi'n ymchwilydd ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol De Cymru.
Ysgrifenna:
Fel artist annibynnol, therapydd symudiad dawns, a darlithydd ym Mhrifysgol De Cymru, croesewir y cyfle i weithio gyda gweithwyr proffesiynol o feysydd eraill bob amser. Roedd bod yn rhan o Grŵp Cynghori Caerdydd Creadigol yn golygu nid yn unig y gallwn ddeall y diwydiannau creadigol o wahanol safbwyntiau, ond gallwn hefyd gyfrannu fy mhrofiad fy hun a lleisio rhai o'r agweddau sy'n effeithio'n arbennig ar ymarferwyr dawns a theatr yng Nghymru. Mae bod yn rhan o grŵp cynghori yn cael y budd dwbl hwnnw o fod yn ymgynghorydd, ond hefyd o fod yn gatalydd ar gyfer newidiadau a chyfleoedd posibl a all helpu i ddyfnhau ac ehangu ein maes yn yr amseroedd heriol hyn.
Y flwyddyn ddiwethaf hon, diolch i anogaeth gan lawer o gydweithwyr yn y diwydiannau creadigol, sefydlais fy nghwmni fy hun, The Body Hotel, sy'n gwmni a menter gymdeithasol yng Nghymru sy'n blaenoriaethu symudiad fel ymyrraeth therapiwtig. Mae'r cwmni'n darparu hyfforddiant, rhaglenni datblygiad proffesiynol a gwasanaethau seicotherapi symudiad dawns i'r sectorau iechyd, lles ac addysg ac i’r celfyddydau. Roedd yn hanfodol i mi fel gweithiwr proffesiynol rhyngwladol, LHDT+ o Puerto Rico, i barhau i ddyfnhau fy ngwreiddiau yng Nghymru a dod o hyd i fannau lle gallwn leihau ynysigrwydd proffesiynol, a wnaeth fy ysgogi i ymateb i alwad agored Grŵp Cynghori Caerdydd Creadigol a dod yn rhan o’r tîm anhygoel hwn yn y pen draw.
Mae rhwydweithiau a chyfleoedd a gynigir trwy lwyfannau Caerdydd Creadigol yn rhoi anogaeth i fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol gael mynediad at gysylltiadau, yn enwedig pan fyddwn yn teimlo’n ynysig oddi wrth ein diwydiant.
Mae gan y tîm agwedd ‘gadewch i ni wneud hyn’, gan gefnogi digwyddiadau, unigolion a mentrau creadigol.
Er enghraifft, mae Vicki Sutton (Rheolwr Prosiect Caerdydd Creadigol) wedi bod yn gefnogwr brwd i'm gweithdai ymarfer seicotherapi symudiad dawns a symposiwm Prifysgol De Cymru ar Symud er Lles. Mae'n wych cael grŵp o bobl sy'n dweud ‘ie’ wrth fentrau ac yn troi i fyny i ddangos brwdfrydedd am yr hyn rydych yn ei wneud ac yn adeiladu cymuned broffesiynol ar y cyd o ymarferwyr creadigol yng Nghaerdydd a thu hwnt.