Technegydd Wigiau a Cholur Teithiol neu Gynorthwyydd

Cyflog
Technegydd - £553 yr wythnos, Cyfradd gynorthwyol yn ddibynnol ar brofiad
Location
Caerdydd
Oriau
Fixed term
Closing date
06.02.2023
Profile picture for user Welsh National Opera

Postiwyd gan: Welsh National Opera

Dyddiad: 18 January 2023

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn rhannu pŵer opera byw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr – mewn theatrau, cymdogaethau ac ar-lein.

Rydym yn chwilio am Dechnegydd Wigiau a Cholur Teithiol i ymuno Opera Cenedlaethol Cymru i gyflwyno Wigiau a Cholur o'r ansawdd orau ym mhob cynhyrchiad, digwyddiad a phrosiect mewn ffordd effeithlon sy'n hyrwyddo amgylchedd gwaith diogel, iach a chynaliadwy.

Byddwch yn canolbwyntio ar gyflawni gwaith crefftus ac artistig sy'n ymwneud â gwallt, wigiau, colur a cholur effeithiau arbennig i safonau y cytunir arnynt ar gyfer cynyrchiadau theatraidd, y cyfryngau a theledu ar ran Opera Cenedlaethol Cymru.

Bydd rhai o'r cyfrifoldebau a fydd gennych yn cynnwys:

  • Defnyddio'ch gwybodaeth, eich profiad a'ch sgiliau sy'n ymwneud â wigiau, trin gwallt a cholur i sicrhau bod cynyrchiadau o'r ansawdd orau bosibl yn cael eu cyflwyno, a bod gweledigaeth greadigol ac artistig y tîm cynhyrchu'n cael eu dehongli'n gywir ac yn gyson; yng Nghaerdydd ac wrth deithio.
  • Torri gwallt, lliwiau gwallt, gosod a gwisgo gwallt at ddibenion technegol, ymarferion a sioe, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau a chan ymdrin â phob cyfnod amser.
  • Gwaith wigiau, gwallt wyneb a chydynnau ffug at ddibenion technegol, ymarferion a sioe. Mae hyn yn cynnwys ffitio, torri, lliwiau, permio, gosod a gwisgo wigiau a chydynnau ffug, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau sy'n ymwneud â phob cyfnod amser, a defnyddio'r uchod.
  • Gwneud gwaith ymchwil ar fathau o golur, eu hasesu a'u defnyddio nhw at ddibenion ymarferion a sioe, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau a chyffwrdd ar bob cyfnod amser.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol y sgiliau, y gwybodaeth a'r profiad canlynol:

  • Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ymarferol o wigiau a cholur theatraidd.
  • Sgiliau torri gwallt a thrin gwallt gwych.
  • Sgiliau steilio wigiau gwych.
  • Sgiliau colur a phrostheteg gwych.
  • Cymhwyster perthnasol mewn Wigiau a Cholur ar gyfer y Celfyddydau Perfformio, yn ddelfrydol byddai hynny'n cynnwys diploma trin gwallt City and Guilds a chwrs colur, neu brentisiaeth trin gwallt neu brentisiaeth wigiau a cholur theatraidd wedi'u cwblhau'n llwyddiannus.
  • Gwybodaeth helaeth am dechnegau, deunyddiau, offer a hanes cryno colur ac arddulliau colur.
  • Dealltwriaeth ymarferol sylfaenol o arferion Iechyd a Diogelwch presennol sy'n berthnasol i'r rôl.
  • Sgiliau TG sylfaenol, gan gynnwys defnyddio Outlook, Word ac Excel.
  • Ymagwedd hyblyg at ofynion y swydd.
  • Yn gallu teithio’n annibynnol o fewn y DU a thramor.
  • Profiad o weithio gydag elfennau'n ymwneud â theatr cwmni.
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event