Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn rhannu pŵer opera byw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr – mewn theatrau, cymdogaethau ac ar-lein.
Rydymynchwilioam Technegydd Llwyfan Deithio i gyflwyno elfennau cynyrchiadau, digwyddiadau a phrosiectau llwyfannu i'r safon uchaf posibl mewn modd effeithlon sy’n hyrwyddo amgylchedd gweithio diogel, iach a chynaliadwy.
Byddwch yn canolbwyntio ar gyflawni tasgau ymarferol yr Adran Lwyfan o ddydd i ddydd, gan gynnwys codi a chario a chynnal a chadw golygfeydd, hedfan, rigio a llwytho cerbyd yn ddiogel.
Bydd rhai o'r cyfrifoldebau a fydd gennych yn cynnwys:
Cynhyrchu
- Defnyddio eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiad o grefft llwyfan ymarferol er mwyn sicrhau bod cynyrchiadau’n cael eu cyflwyno i’r safon uchaf posibl, a bod gweledigaeth greadigol ac artistig y tîm cynhyrchu’n cael ei chyflwyno’n gywir ac yn gyson; yng Nghaerdydd ac ar daith.
- Cynnig arbenigedd technegol ymarferol mewn o leiaf un o'r meysydd canlynol: gwaith coed cynhyrchiad, hedfan theatraidd, llwytho cerbyd yn ddiogel, codi a chario trwm.
Gwaith Tîm
- Cynorthwyo â'r gwaith o oruchwylio Technegwyr Llwyfan, Prentisiaethau, Technegwyr Lleoliad a Chriw Asiantaeth ar y safle.
- Mynychu Cyfarfodydd Technegol ac Adrannol yr adran Lwyfan yn ôl yr angen a chynorthwyo â dirprwyo tasgau ledled yr adran.
Gweinyddiaeth a Chyllid
- Dilyn systemau gweinyddol yr Adran Lwyfan a systemau gweinyddol ehangach WNO, gan helpu i weinyddu taflenni amser, cofnodion gwyliau, a data eraill sy'n gysylltiedig â staffio ar y cyd â'r Adran Adnoddau Dynol.
Storfeydd
- Cynorthwyo â’r gwaith o storio a chadw Golygfeydd, Propiau ac Offer Llwyfannu WNO.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol y sgiliau, y gwybodaeth a'r profiad canlynol:
- Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ymarferol o godi a chario trwm a thechnegau gweithio o uchder sylfaenol
- Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ymarferol o un neu fwy o’r canlynol: gwaith coed cynhyrchiad, arfer rigio a hedfan theatraidd, llwytho cerbyd yn ddiogel, sgiliau crefft llwyfan cyffredinol.
- Y gallu i ddilyn ciwiau yn ystod perfformiadau ac ymarferion.
- Y gallu i ddilyn datganiadau dull, gan gynnwys defnyddio cynlluniau llwyfan a llawr.
- Dealltwriaeth ymarferol sylfaenol o arferion Iechyd a Diogelwch presennol sy'n berthnasol i'r rôl.
- Ymagwedd hyblyg at ofynion y swydd.
- Yn gallu teithio’n annibynnol o fewn y DU a thramor.
I wneud cais, darparwch CV ynghyd â llythyr eglurhaol yn nodi eu sgiliau a'u profiad ar gyfer y rôl i recruitment@wno.org.uk
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig. Rydym yn annog pobl o unrhyw gefndir i wneud cais am swyddi gwag. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas ac sy’n dwyn ynghyd pobl sydd ag amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau i helpu i siapio’r hyn a wnawn a sut y gweithiwn. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), a phobl anabl sy’n dymuno ymgeisio.