Technegydd Llwyfan

Cyflog
£27640 yn codi i £29640 ar gwblhau asesiad sgiliau ar ôl 6 mis.
Location
Bae Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
03.04.2025
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 20 March 2025

Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg

Teitl y Rôl: Technegydd Llwyfan

Cyflog: £27640 yn codi i £29640 ar gwblhau asesiad sgiliau ar ôl 6 mis.

Dyddiad Cau: 03 Ebrill 2025

Dyddiad Cyfweld:

Noder na fydd ceisiadau trwy Indeed yn cael eu derbyn.

Amdanom ni/Ein Hadran:

Canolfan Mileniwm Cymru yw canolfan gelfyddydau fwyaf Cymru.Wedi'i lleoli ym Mae Caerdydd mae’n croesawu artistiaid a chynyrchiadau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae llwyddiant CMC yn ddibynnol i raddau helaeth ar ddarpariaeth ei gwasanaethau technegol a’r defnydd o’i chyfleusterau o safon fyd-eang. Rydym yn chwilio am Dechnegydd Llwyfan i ymuno â ni a pharhau â’n llwyddiant.

·Fel rhan o dîm o 14 o staff technegol, byddwch yn gweithio’n bennaf gyda’r Adran Dechnegol. Bydd y rôl yn hwyluso'r broses o osod, datgymalu a rhedeg digwyddiadau amrywiol, yn amrywio o sioeau gerdd, cabaret, bandiau byw i ddigwyddiadau awyr agored yn ac o amgylch yr adeilad.

  • Mae CMC hefyd yn gartref i dri lleoliad arall, sef Theatr Donald Gordon sydd â 1900 o seddi, Stiwdio Weston sydd â 250 o seddi, a lleoliad Cabaret gyda 120 o seddi. O bryd i'w gilydd mae’n bosib y byddwch yn gweithio ar gynyrchiadau a digwyddiadau eraill a gynhelir yn y lleoliadau hyn.
  • Mae’r rôl yn atebol i Bennaeth y Llwyfan a'r Prif Drydanwr.
  • Mae’r wythnos waith yn 38.5 awr ar gyfartaledd dros gyfnod o 17 wythnos.


Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:

Mae’r swydd hon yn eistedd o fewn Celfyddydau a Chreadigol a bydd yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod yr holl weithgareddau, digwyddiadau a sioeau sy'n digwydd mewn unrhyw ran o’r Ganolfan neu oddi ar y safle yn cael eu cefnogi'n dechnegol i'r safon uchaf. Ar hyn o bryd mae gan CMC ardaloedd sy'n cael eu llogi i gleientiaid ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau, lansiadau ac ati, yn ogystal â mannau amrywiol yn y cynteddau sydd hefyd ar gael i gleientiaid eu llogi. Yn y dyfodol bydd mwy o leoliadau ar gael i'w llogi.Bydd disgwyl i’r Technegydd Llwyfan weithio o ddydd Llun i ddydd Sul gan gynnwys digwyddiadau min nos yn aml. Bydd yr wythnos waith yn 38.5 awr. Fodd bynnag, efallai y bydd angen gweithio mwy na hyn ar adegau ac os felly gellir cymryd unrhyw oriau a weithiwyd dros y 38.5 yn ôl fel amser i ffwrdd. Mae trefniadau ar waith ar gyfer egwyliau yn ystod y dydd a thros nos, a thelir taliadau perthnasol lle bo'n briodol. Mae hawl i 25 diwrnod o wyliau'r flwyddyn. Gellir darparu ffôn symudol cwmni gyda mynediad o bell, ar gais.


Gofynion Allweddol:

  • Darparu cymorth technegol ar gyfer cynyrchiadau a digwyddiadau. Bydd dyletswyddau cyffredin yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, symud digwyddiadau i mewn ac allan, gosod goleuadau, cyfarpar sain neu offer llwyfan, gweithredu cyfarpar sain, rigio neu oleuadau yn ystod perfformiadau a pherfformio ciwiau ar y llwyfan fel rhan o gynhyrchiad
  • Gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar offer CMC
  • Mynychu sesiynau hyfforddi yn ôl yr angen
  • Cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch gan gynnwys cynhyrchu asesiadau risg a gweithdrefnau gweithio diogel
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol gan eich rheolwr llinell neu reolwyr eraill CMC. Gall hyn gynnwys gweithio mewn ardaloedd eraill neu oddi ar y safle.

Gall eich rôl fod yn amodol ar wiriad DBS.


Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser. ·Cynllun pensiwn sy’n uwch na’r statudol
  • Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
  • Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
  • Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
  • CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
  • NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio

Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event