Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn rhannu grym opera fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr – mewn theatrau, mewn cymdogaethau ac ar-lein. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Dechnegydd Cwpwrdd Dillad Teithiol i roi cyflwyniad o’r ansawdd uchaf o elfennau gwisgoedd cynyrchiadau, digwyddiadau a phrosiectau mewn modd effeithlon sy’n hyrwyddo amgylchedd gwaith diogel, iach a chynaliadwy.
Bydd rhai o'ch cyfrifoldebau'n cynnwys:
- Defnyddio'ch gwybodaeth, eich profiad a'ch sgiliau ymarferol sy'n ymwneud â chwpwrdd dillad i sicrhau bod cynyrchiadau o'r ansawdd orau bosibl yn cael eu cyflwyno, a bod gweledigaeth greadigol ac artistig y tîm cynhyrchu'n cael eu dehongli'n gywir ac yn gyson; yng Nghaerdydd ac wrth deithio.
Cynnig sgiliau ymarferol yn y meysydd canlynol:
- Golchi, sychu, sych-lanhau, smwddio a phresio gwisgoedd.
- Atgyweiriadau, addasiadau bach a chynnal a chadw gwisgoedd.
- Gofalu am esgidiau, hetiau, gemwaith ac ategolion eraill.
- Gweithio o fewn y prosesau, gosod, dad-osod a newid drosodd mewn perfformiadau, gan gynnwys cario gwisgoedd trwm.
- Gosod ystafelloedd newid a gwisgo artistiaid yn ystod ymarferion a pherfformiadau.
- Cefnogi gwaith cynhyrchu, teithio, llogi a chyd-gynhyrchu’r cwmni yn y DU a ledled y byd.
- Cefnogi gwaith holl adrannau WNO gan gynnwys ymarferion, cynyrchiadau, gwaith masnachol, cyngherddau, gwaith digidol, cynyrchiadau ar raddfa lai a digwyddiadau.
- Cynorthwyo â'r gwaith o sicrhau bod yr ardaloedd a ddefnyddir gan ein Hadran Cwpwrdd Dillad Teithiol yn cael eu cadw'n lân a thaclus, a bod holl offer yr adran yn cael ei storio'n gywir ac yn cael ei gynnal a'i gadw.
- Cynorthwyo â'r gwaith o gludo’r holl offer teithio i Mewn ac Allan.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn meddu ar y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad canlynol:
- Sgiliau ymarferol, gwybodaeth a phrofiad o redeg cwpwrdd dillad
- Sgiliau Gwnïo Sylfaenol
- Dealltwriaeth ymarferol sylfaenol am arferion Iechyd a Diogelwch presennol sy'n berthnasol i'r rôl.
- Sgiliau TG sylfaenol, gan gynnwys defnyddio Outlook, Word ac Excel.
- Ymagwedd hyblyg at ofynion y swydd.
- Y gallu i deithio’n annibynnol o fewn y DU a thramor.
- Profiad o weithio gyda gwisgoedd cyfnod.*