Take Your Place

19/11/2025 - 18:00
Pafiliwn Grange, Caerdydd

Postiwyd gan: CommsCommonWealth

eugenia@commonwealththeatre.co.uk

Oes gennych chi rywbeth i’w ddweud? 

Ydych chi’n teimlo’n flin am gyflwr y byd ar hyn o bryd? 

Ydych chi’n teimlo bod yr hyn sy’n bwysig i chi a’ch dyfodol yn cael ei anwybyddu?

Rydyn ni’n chwilio am bobl ifanc o’r dosbarth gweithiol sy’n teimlo’n angerddol am sicrhau newid – nad ydyn nhw efallai’n gwybod ble i ddechrau, ond sydd eisiau dysgu, gwneud ffrindiau a bod yn rhan o fudiad dros newid. 

Mae Take Your Place yn brosiect celfyddydau a gweithredu ar gyfer pobl ifanc dosbarth gweithiol. Drwy gyfres o weithdai creadigol 12 wythnos o hyd, bydd pobl ifanc yn archwilio pwy ydyn nhw, pam mae hynny’n bwysig a beth sy’n bwysig iddyn nhw. 

Byddwn yn ymchwilio’n fanwl i themâu pŵer, arweinyddiaeth, trefnu cymunedol a chyfiawnder cymdeithasol ac yn cydweithio i greu ymateb creadigol. 

Byddwn yn cyfarfod yn wythnosol ar dydd Mercher rhwng 6-8:30 pm ym Mhafiliwn y Grange. Bydd y prosiect yn dechrau o Ionawr 7fed tan Fawrth 31ain.

Byddwn yn talu £10 y pen mewn treuliau ar gyfer pob sesiwn; gellir talu hyn drwy drosglwyddiad banc neu mewn talebau siopa. Nid oes angen prawf o dderbynebau treuliau arnom. Yn ogystal â hyn, os ydych chi’n byw mewn rhan wahanol o Gaerdydd, gallwn ni dalu eich costau cludiant yno ac yn ôl ar gyfer pob sesiwn. Rydyn ni’n awyddus i gael pobl ifanc o bob cwr o’r ddinas. 

Mae gennym broses ymgeisio fer ar-lein, a gallwn hefyd helpu gyda cheisiadau yn ein sesiynau blasu. I wneud cais, atebwch y cwestiynau canlynol drwy e-bost. Mae croeso i chi deipio, ysgrifennu neu wneud fideo o’ch ymateb. 

  • Dywedwch ychydig amdanoch chi’ch hun wrthym
  • Beth hoffech chi ei newid yng Nghaerdydd?
  • Rhannwch ffotograff, ysgrifen, neu lun gyda ni o rywbeth sy’n hollbwysig i chi.

I anfon eich cais drwy e-bost, anfonwch ef at eugenia@commonwealththeatre.co.uk

Os ydych yn cael unrhyw drafferth gwneud cais neu os oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch ag eugenia@commonwealththeatre.co.uk

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.