Tair prifysgol Caerdydd yn dod ynghyd ar Daith Hybiau Myfyrwyr

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 16 April 2020

Myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru'n teithio mannau cydweithio creadigol yn y ddinas gyda Caerdydd Creadigol

Bu darpar entrepreneuriaid o blith myfyrwyr yn ymweld â thri man cydweithio yng Nghaerdydd i glywed mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i raddedigion creadigol yn y brifddinas.

Aeth y Daith Hybiau â 30 o fyfyrwyr i ymweld â Rabble Studio, The Sustainable Studio a Tramshed Tech lle clywon nhw fwy am entrepreneuriaeth, dechrau busnes a gweithio'n llawrydd.

Bu timau menter o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru'n cydweithio i ddod â myfyrwyr o amrywiol ddisgyblaethau at ei gilydd ar gyfer y daith. 

Trefnwyd y digwyddiad gan Steve Aicheler, Rheolwr Ymgysylltu Entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd mewn partneriaeth gyda Caerdydd Creadigol a gyda chefnogaeth cyllid gan Lywodraeth Cymru. 

Dechreuodd y Daith Hybiau yn Rabble Studio - stiwdio cydweithio gyda desgiau i bobl greadigol ym Mae Caerdydd. Rhannodd sylfaenydd Rabble Studio, Dan Spain, ei hanes gyda'r grŵp. 

Dywedodd:  

Er bod mannau eraill ar gael yn y ddinas i weithio doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i ddim byd addas i fi fel gweithiwr llawrydd felly roeddwn i am greu cymuned o bobl o'r un anian sy'n hoffi gwneud gwaith da a chydweithio. Rydym ni'n annog ein gilydd, yn herio ein gilydd, cynnig awgrymiadau ac os oes angen, eich dal yn atebol." 

Yr ail gyrchfan ar y Daith Hybiau oedd The Sustainable Studio - lle i wneuthurwyr, pobl greadigol ac artistiaid mewn hen ffatri ffrwydron oddi ar Heol Dumballs.

Dywedodd Julia Harris a Sarah Valentin, sylfaenwyr The Sustainable Studio: 

Mae hwn yn ofod i'w rannu'n seiliedig ar berthynas ac ymddiriedaeth. Yr hyn mae'r gymuned ac aelodau'n dod gyda nhw i'r gofod  yw’r peth sy'n creu awyrgylch, ac aelodau'n cytuno â'r gwerthoedd o ddymuno cefnogi ein gilydd yw’r hyn sy'n ei wneud yn gynaliadwy."

Y cam olaf oedd Tramshed Tech lle mae cwmnïau newydd, cwmnïau sy'n tyfu a mentrau mwy o faint yn dod at ei gilydd i weithio ac arloesi.

Croesawyd y myfyrwyr i Tramshed Tech gan y cynorthwyydd marchnata Marcus Price. Dywedodd:  

Mae'n wych gweld cymuned gydweithio mor fywiog yn datblygu yng Nghaerdydd. Rydym ni'n ymfalchïo ein bod yn creu man cyfeillgar a chynhwysol i aelodau ac yn falch fod Caerdydd yn tyfu'n arweinydd ar gyfer cwmnïau technoleg drwy'r DU."

Dywedodd y myfyriwr Biocemeg blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd Annabel Courts i’r profiad fod yn un gwych. Meddai: "Rwyf i wrth fy modd yn cyfarfod â phobl a chymryd rhan mewn stwff yn y ddinas. Cael gweld y gwahanol fathau o lefydd cydweithio - i gyd yn debyg o ran ffocws ar y gymuned a rhyngweithio, yn defnyddio sgiliau pawb - ond rwy'n caru'r ffaith fod gan bob un ei bersonoliaeth a'i ffocws ei hun.

Mae wedi bod yn braf cael cyfarfod â myfyrwyr o brifysgolion eraill sydd â'u syniadau eu hunain a thrafod eich syniadau gyda nhw, cael y cyfle i siarad."

I'r myfyriwr meddygaeth bumed flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd Taj Chowdhury roedd yn noswaith ddefnyddiol i'w chofio. Meddai: "Roeddwn i am gael cyfle i gyfarfod â phobl newydd, gweld rhywbeth y tu hwnt i fy nghwrs a chamu allan o fy nyth o gysur. Roedd yn teimlo bod yma le i fi ac mae wedi rhoi syniadau i fi ar gyfer pethau i'w gwneud nesaf."

Dywedodd Donata Zowajak, myfyriwr Ffasiwn blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: "Diolch am gyfle mor wych i ymweld â'r holl lefydd rhyfeddol yma. Mae'n wybodaeth hanfodol i bobl greadigol a busnes, bod llefydd fel hyn ar gael yng Nghaerdydd. Y darn pwysicaf yw bod llawer o gyfleoedd i gydweithio gyda llawer o arbenigwyr o gefndiroedd gwahanol, fydd yn golygu y bydd yn haws datblygu ein label ffasiwn."

Trefnwyd y Daith Hybiau gan Steve Aicheler, Rheolwr Ymgysylltu Entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Dywedodd:  "Cafwyd llawer o alw'n ddiweddar ar i Brifysgolion wneud mwy i gefnogi entrepreneuriaeth, a gwell cydweithio. Mae'r fenter hon yn dangos bod y galwadau hyn eisoes yn cael eu hateb. Mae Caerdydd yn datblygu'n ddinas lewyrchus newydd i fusnesau newydd ac mae integreiddio myfyrwyr a graddedigion i'r gymuned hon yn hanfodol i'w bywiogrwydd, twf a llwyddiant."

Cefnogwyd y Daith Hybiau gan rwydwaith dinas greadigol Caerdydd Creadigol sydd wedi bod yn ymwneud â mannau cydweithio ers 2016.

Dywedodd Vicki Sutton, Rheolwr Prosiect Caerdydd Creadigol: 

Mae bob amser wedi bod yn flaenoriaeth gan Caerdydd Creadigol i hyrwyddo mannau cydweithio a hybiau creadigol ar draws Rhanbarth Dinas Caerdydd. Rydym ni'n ymrwymo i adrodd stori rheolwyr hybiau sy'n cydgysylltu, annog cydweithio a chefnogi'r mannau hyn a'u tenantiaid i ffynnu. 

"Ac felly roeddem ni'n falch iawn i adeiladu ar y gwaith hwn drwy ailadrodd menter y Daith Hybiau, y tro hwn gyda ffocws ar fyfyrwyr creadigol o dair prifysgol Caerdydd. Mae'n bwysig i'r genhedlaeth nesaf o bobl greadigol ddeall yr ecosystem amrywiol a bywiog sydd gennym yno, a gweld eu lle i ffynnu oddi mewn iddi."