Swyddog Ymgysylltu a Chyfathrebu

Cyflog
£22,017 - £26,243 y flwyddyn
Oriau
Full time
Closing date
01.11.2020
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 15 October 2020

Darparu cymorth proffesiynol cynhwysfawr i’r Uned Economi Greadigol a’i phrosiectau gan ddarparu cymorth ar gyfathrebu, marchnata ac ymgysylltu. Mae gwaith deiliad y swydd yn cynnwys dau brosiect uchel eu proffil sy’n gysylltiedig â’i gilydd: Clwstwr a Chaerdydd Creadigol.

Rydym wedi ymrwymo i greu rhaglen fwy diwylliannol amrywiol ac mae angen i ni wneud mwy oherwydd nad yw ein tîm presennol a’r prosiectau a ariennir gennym yn cynrychioli’r amrywiaeth yn ein cymuned leol yn llawn. Rydym eisiau gweithio gyda phobl o bob cefndir diwylliannol a chymdeithasol, a byddwn yn gweithio gyda’r ymgeisydd llwyddiannus i sicrhau ei fod yn gysylltiedig ac yn cael ei gefnogi yn y tîm.  Bydd ein panel creu rhestr fer a chyfweld yn cynnwys aelodau amrywiol, a byddwn yn asesu pob cais yn erbyn y meini prawf hanfodol a nodir ym Manyleb yr Unigolyn.  

Rhowch wybod i ni os oes angen addasiadau rhesymol arnoch i’r broses, a gallwn eich cefnogi chi yn ôl y gofyn.  Os hoffech drafod eich cais cyn ei gyflwyno, cysylltwch â ni ar clwstwrcreadigol@caerdydd.ac.uk.

Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon am gyfnod penodol tan fis Mehefin 2022. Byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau rhannu swydd neu weithio’n hyblyg.

Cyflog: £22,017 - £26,243 y flwyddyn (Gradd 4)

Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 15 Hydref 2020

Dyddiad cau: Dydd Sul, 1 Tachwedd 2020

Sylwer bod Prifysgol Caerdydd yn cadw’r hawl i roi’r gorau i hysbysebu’r swydd hon yn gynnar, os daw digon o geisiadau i law.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywioldeb a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym ni o’r farn bod modd gwneud hynny trwy ddenu, datblygu a chadw ystod amryfal o staff o sawl cefndir gwahanol a chanddynt uchelgais i greu prifysgol sy’n ceisio cyflawni ein cyfrifoldeb cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd dros Gaerdydd, Cymru a’r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Disgrifiad Swydd

Prif Ddyletswyddau

  • Trefnu’r gwaith o baratoi a chynhyrchu llenyddiaeth hyrwyddo Clwstwr gan gynnwys rheoli’r dylunio, yr argraffu a’r dosbarthu.
  • Cynorthwyo a datblygu’r gwaith o gyfathrebu galwadau am gyllid, ymchwil, newyddion a digwyddiadau Clwstwr.
  • Creu, lanlwytho a dosbarthu cynnwys Clwstwr ar gyfer llwyfannau ar-lein gan gynnwys y wefan, e-gyfathrebiadau a chyfryngau cymdeithasol.
  • Cefnogi’r gwaith o drefnu a marchnata digwyddiadau ymgysylltu fel gweithdai, darlithoedd a digwyddiadau rhwydweithio.
  • Meithrin perthynas waith gyda chysylltiadau a rhanddeiliaid allweddol, gan greu cysylltiadau cyfathrebu priodol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol yn ôl y gofyn.
  • Casglu a dadansoddi data i lywio penderfyniadau, gan adnabod tueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data a chreu adroddiadau fel y bo'n briodol.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â hunaniaeth weledol a chanllawiau brand.
  • Monitro a rheoli cyfathrebiadau a ddaw i mewn, ymateb i negeseuon ebost mewn ffordd amserol ac yn unol â’r brand.
  • Rhoi cyngor ac arweiniad manwl ar weithgarwch a gweithdrefnau marchnata a chyfathrebu i gwsmeriaid mewnol, gan ddefnyddio synnwyr cyffredin a bod yn greadigol wrth awgrymu'r camau gweithredu gorau lle bo'n briodol.
  • Cydweithio ag eraill er mwyn gwneud argymhellion i ddatblygu'r prosesau a'r gweithdrefnau cyfathrebu a marchnata sydd eisoes ar waith.
  • Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi Clwstwr a Chaerdydd Creadigol.
  • Darparu cefnogaeth i rwydwaith Caerdydd Creadigol gan gynnwys trefnu, hwyluso a hyrwyddo gweithgareddau, gwefan a chynllun aelodaeth y rhwydwaith.

Dyletswyddau Cyffredinol

  • Gofalu eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd yn yr holl ddyletswyddau
  • Cadw at bolisïau’r Brifysgol ynghylch Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond sy'n cyd-fynd â'r rôl.

Manyleb yr Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol

Gwnewch yn siŵr bod eich cais yn trafod y Meini Prawf Hanfodol hyn yn uniongyrchol achos bydd ein panel llunio rhestr fer yn eich asesu yn ôl y rhain.

Cymwysterau ac Addysg

1. Gradd ynglŷn â chyfathrebu neu gymhwyster cyfatebol a/neu brofiad

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad

2. Profiad o weithio mewn rôl debyg neu gysylltiedig

3. Gwybodaeth arbenigol o ymgysylltu, cyfathrebu a/neu farchnata ac yn arbennig, cyfathrebu digidol, gyda phrofiad o greu cynnwys a defnyddio systemau rheoli cynnwys

4. Gallu sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol a gwneud gwelliannau fel y bo'n briodol

Gwasanaeth i Gwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm

5. Gallu cyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod o gwsmeriaid sydd â lefelau amrywiol o ddealltwriaeth.

6. Gallu diamheuol i gynghori a dylanwadu ar randdeiliaid allweddol

7. Tystiolaeth o allu archwilio anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn cyflwyno gwasanaeth o safon.

Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau

8. Tystiolaeth o allu i ddatrys problemau drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol; adnabod a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau lle mae ystod o ddewisiadau posibl ar gael

9. Tystiolaeth o allu i ddadansoddi prosesau a gweithdrefnau, a chynghori ar welliannau

10. Tystiolaeth o allu i weithio heb oruchwyliaeth, gan gadw at derfynau amser, cynllunio a phennu blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun

Meini Prawf Dymunol

1. Rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar

2. Meddu ar gymhwyster CIM neu CIPR, neu yn gweithio tuag at hynny.

3. Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch.

4. Profiad o reoli sawl platfform cynnwys.

Gwybodaeth ychwanegol

Gall gynnwys gweithio gyda’r nos/ar y penwythnos o bryd i’w gilydd.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event