Contract: Tymor sefydlog (amc. 20 diwrnod Mawrth-Mai)
Gofynion
Ychwanegol: Gweithiwr llawrydd angen cyfrifiadur ei hun (ni ddylid fod angen talu am feddalwedd)
Atebol i: Swyddog Mynediad FAN, Canolfan Ffilm Cymru
(Chapter Caerdydd)
Briff
Mae Canolfan Ffilm Cymru yn chwilio am swyddog marchnata llawrydd i gefnogi Swyddog Mynediad FAN gyda chodi ymwybyddiaeth o Sinema Cynhwysol, prosiect Amrywiaeth a Chynhwysiant Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI. Fe ddylai’r gweithiwr llawrydd feddu ar arbenigedd mewn cyfryngau digidol, a phrofiad o ddefnyddio Wordpress, Mailchimp a Twitter, ac yn hyderus wrth siarad gydag arddangoswyr sinema o bob ffurf a maint, y wasg a’r cyfryngau, boed ar y ffôn neu ar-lein. Byddwn yn disgwyl i’r gweithiwr llawrydd feddu ar ddealltwriaeth ac angerdd dros gynhwysiant ac yn ddelfrydol, fe fydd y contract yma yn cael ei chwblhau gan rhywun sydd â phrofiad byw o amrywiaeth.
Darparu
-
Cyhoeddi a hyrwyddo adnoddau Sinema Cynhwysol, yn cynnwys y cyhoeddiad diweddaraf ‘Dismantling Structural Inequality in Your Cinema’ gan Sadia Pineda Hameed. Fe fydd y gweithiwr llawrydd yn cysylltu gyda’r wasg , yn ymgysylltu gyda phartneriaid cyfryngau a gyda’r 1500+ o aelodau FAN,
-
Tynnu sylw at adnoddau sydd yn cysylltu gyda dyddiadau ymwybyddiaeth perthnasol, yn cynnwys Mis Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd, ac Wythnos Ymwybyddiaeth y Byddar,
-
Ymchwilio cynnwys, ysgrifennu ac anfon newyddlen Sinema Cynhwysol i danysgrifwyr,
-
Casglu a chyoeddi 10+ o astudiaethau achos byr am brosiectau sinema wedi’u harawin gan amrywiaeth i lwyfan Sinema Cynhwysol mewn cydweithrediad gydag aelodau FAN,
-
Cyfrannu at lwyfan Twitter Sinema Cynhwysol,
-
Casglu data/gwybodaeth ddadansoddol marchnata i gyfrannu ar adrodd ar brosiectau .
Profiad
-
Deallwtiaeth ddofn o amrywiaeth a chynhwysiant, sut mae cynhwysiant yn gweithio yn ymarferol ac eiriolaeth profedig dros gynulleidfaoedd ymylol,
-
Dealltwriaeth a phrofiad gwaith diweddar yn y sector arddangos ffilm DU,
-
Gwybodaeth a phrofiad marchnata crwn ar draws cyfryngau digidol a phrint,
-
Dull cyfathrebu hyderus
Cefnogaeth
-
Fe fyddwn yn cyllido o leiaf un cyfle hyfforddi i’r gweithiwr llawrydd,
-
Fe fydd y gweithiwr llawrydd yn cysylltu gyda phob canolfan ffilm rhanbarthol a’r aelodaeth ehangach i gefnogi datblygiad eu rhwydwaith,
-
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi anghenion mynediad ac fe fyddwn yn cydweithredu gyda’r gweithiwr llawrydd i gefnogi arferion gwaith gorau iddyn nhw (o amgylch niwroamrywiaeth, anabledd, cyfrifoldebau gofal, gofynion iechyd meddwl etc)
Diddordeb?
-
E-bostiwch toki@filmhubwales.org i ddatgan diddordeb a chyflwyno eich portffolio/CV (ysgrifenedig, fideo, fformatau sain yn dderbyniol) gyda geirda erbyn, erbyn 6pm Llu, 15 Mawrth 2021,
-
Unrhyw gwestiynau neu sgwrs am y contract, cysylltwch gyda Toki Allison (Swyddog Mynediad FAN) drwy e-bost neu ffôn 07866 451949,
-
Ni fydd angen cyfweliadau ffurfiol er y gallwn eich ffonio am sgwrs
-
Fe fyddwn yn dewis yr wythnos honno ac yn edrych ar gychwyn yn weddol sydyn.
Diolch am eich diddordeb.