Mae Ymddiriedolaeth Cwrt Insole yn chwilio am Swyddog Marchnata a Datblygu rhagweithiol a chreadigol i arwain ymdrechion i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o Gwrt Insole ac i sicrhau mwy o gefnogaeth i'w raglenni elusennol, diwylliannol, treftadaeth a masnachol.
Yn y rôl hollbwysig hon, byddwch yn datblygu ac yn gweithredu strategaethau marchnata cynhwysfawr i ymgysylltu ag ystod amrywiol o gynulleidfaoedd ar draws platfformau digidol a thraddodiadol. Mae hyn yn cynnwys goruchwylio deunyddiau print, y cyfryngau cymdeithasol, cynnwys y wefan, hysbysebu a chysylltiadau â'r wasg. Gan weithio'n annibynnol ac ar y cyd â'r Prif Swyddog Gweithredol, y Rheolwr Arlwyo a'r tîm Masnachol, byddwch yn gyfrifol am gynllunio, gweithredu a gwerthuso pob menter farchnata.
Yn ogystal â marchnata, byddwch yn gwneud cyfraniad pwysig at hyrwyddo gweithgareddau codi arian yr Ymddiriedolaeth. Gyda chefnogaeth y Pwyllgor Codi Arian, byddwch yn cyfrannu at gyflawni ein strategaeth codi arian trwy ymchwilio a pharatoi ceisiadau grymus am gyllid i ymddiriedolaethau a sefydliadau, yn ogystal â meithrin perthynas â phartneriaid corfforaethol a rhoddwyr unigol.