Chwilio am her newydd yn 2023? Os ydych chi'n caru celf, wrth eich bodd â deinosoriaid a/neu'n angerddol am ysbrydoli pobl, dyma gyfle gwych i weithio yn Amgueddfa Cymru yn hyrwyddo'r projectau cyffrous yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae gennym gytundeb blwyddyn o hyd ar gyfer gweithiwr proffesiynol Marchnata/Cyfathrebu i weithio yn ein Tîm Marchnata a Chyfathrebu cyfeillgar.
Contract: Cyfnod mamolaeth ar gyfer y cyfnod tybiedig o 30 Ionawr 2023 – 31 Ionawr 2024; 35 awr yr wythnos
Cyflog: Gradd E, £27,996.77 – £34,257.29 y flwyddyn
Dyddiad cau: 16 Ionawr 2023 (erbyn 5pm)
Dyddiad y cyfweliadau: 26 Ionawr 2023
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.