Trosolwg o’r rôl
Rydyn ni’n chwilio am berson uchelgeisiol a threfnus iawn, gydag o leiaf 3 blynedd o brofiad o weithio gydag asiantaeth, i ymuno â'n tîm Creadigol sy'n tyfu. Byddwch chi’n cefnogi'r tîm i gyflawni prosiectau creadigol ac ymgyrchoedd integredig o ddydd i ddydd, gan sicrhau ein bod yn darparu'r ateb creadigol gorau posibl i'n cleientiaid.
Mae'r rôl yn hanfodol i redeg ein tîm Creadigol yn ddidrafferth a bydd yn cynnwys:
- Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer llawer o'n cleientiaid
- Cefnogi’r Cyfarwyddwr Cyfrifon i reoli rhai o'n cyfrifon mwy
- Darparu cymorth gweinyddol a logistaidd i'r tîm creadigol
- Sicrhau bod prosiectau'n cael eu cwblhau yn unol â’r briff, y gyllideb a’r rhagolwg
- Bwrw golwg dros waith creadigol er mwyn sicrhau ei fod yn gywir ac yn cyflawni briff y cleient
- Cynnal cyfathrebu clir â rhanddeiliaid mewnol ac allanol
- Meithrin perthynas gadarnhaol gyda'n cleientiaid, rhanddeiliaid, cyfranwyr ac isgontractwyr
- Cefnogi'r gwaith o baratoi cynigion a dogfennau tendro.
Pam ddylech chi weithio i ni?
Orchard yw’r hwb strategol a chreadigol sy’n dod â syniadau’n fyw ac yn rhoi ein pobl yn gyntaf. Byddwch chi’n gweithio gydag amrywiaeth o gleientiaid proffil uchel yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus, gan ddatblygu brandiau, cynnwys ac ymgyrchoedd newydd.
Bydd bod yn rhan o asiantaeth sy'n cynnig gwasanaeth cwbl integredig yn fewnol yn rhoi gyrfa eang a chyffrous i chi. Gallech fod yn brandio dinas un diwrnod, ar sesiwn tynnu lluniau'r diwrnod nesaf, yn cynnig syniadau ar gyfer ymgyrch newydd neu'n gweithio ar ddigwyddiad cleient.
Lleolir pencadlys Orchard yng nghanol Caerdydd, ond rydym yn cynnig y cyfle i weithio o bell fel rhan o'n polisi gweithio hyblyg.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at jointheteam@thinkorchard.com.
Dyletswyddau a chyfrifoldebau penodol
Fel rhan o'n Tîm Creadigol, byddwch chi’n helpu i gyflawni prosiectau mewnol ac allanol, gan sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni'n brydlon ac i'r safonau ansawdd a ddisgwylir gan ein cleientiaid, y tîm ac Orchard yn gyffredinol.
Bydd disgwyl i chi hefyd:
- Gefnogi'r tîm Creadigol i ddyfeisio a darparu atebion creadigol ac arloesol.
- Cynorthwyo'r Cyfarwyddwr Cyfrifon i redeg y tîm o ddydd i ddydd, a rheoli adnoddau a phrosiectau cyfredol.
- Creu a rheoli cynlluniau prosiect.
- Cymryd a gweithredu ar friffiau gan dimau mewnol eraill.
- Rheoli deunydd a’i greu.
- Goruchwylio ansawdd yr allbwn.
- Meithrin perthynas gadarnhaol gyda'n cleientiaid, rhanddeiliaid, cyfranwyr ac is-gontractwyr.
- Paratoi a rheoli'r holl randdeiliaid a chyfranwyr newydd.
Amdanoch chi
Mae'n hanfodol bod gennych yr isod:
- O leiaf 3 flynedd o brofiad mewn rôl debyg, yn ddelfrydol mewn amgylchedd asiantaeth
- Methodoleg drefnus iawn sy'n cael ei gyrru gan brosesau gyda sgiliau rheoli prosiect profedig
- Gallu gweithio i amserlenni a blaenoriaethu tasgau
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Rhoi sylw manwl i fanylion fel sgiliau prawfddarllen a chymeradwyo gwaith celf ardderchog
- Yn gyfforddus wrth gyfathrebu â chleientiaid a chydweithwyr mewn modd proffesiynol
- Sgiliau TG rhagorol a gwybodaeth am gyfres MS (Teams / Excel / Word / PPT)
- Yn gyfforddus yn gweithio ar eich liwt eich hun, ac yn gallu rheoli eich amser a'ch llwyth gwaith eich hun yn effeithiol ac yn effeithlon.
- Chwaraewr tîm da sy'n gallu meithrin perthynas gref ac sy'n dilyn ein prif werthoedd
Mae'r isod yn ddymunol:
- Siaradwr Cymraeg rhugl
- Datryswr problemau creadigol sydd bob amser yn ceisio dod o hyd i atebion
- Y gallu i weithredu o fewn amgylchedd sy'n newid ac yn symud yn gyflym
- Yn gyfforddus gyda gweithio'n annibynnol o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt
Pecyn buddion Orchard
Ein pobl sy'n ein gwneud ni mor arbennig. Dyna pam rydym yn cynnig pecyn buddion hael i bawb sy'n rhan o'n tîm. Dyma enghraifft o'r buddion sydd gennym:
- Cyfleoedd gweithio hyblyg ac o bell
- Oriau craidd 10 – 4
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â diwrnod i ffwrdd am ddim dros y Nadolig
- Oriau lles misol
- Cyllideb hyfforddi hael
- Yswiriant meddygol preifat
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Pensiwn o 8% (mae hynny'n cyfateb i 4% gennych chi a gennym ni)
- Digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol (fel diodydd diwedd mis, clwb ffilm a phêl-droed 5 bob ochr)
Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal, sy'n golygu y byddwn yn ystyried pob ymgeisydd sydd â chymwysterau addas waeth beth fo'i hunaniaeth neu fynegiant o ran rhywedd, tarddiad ethnig, cenedligrwydd, crefydd neu gredoau, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, statws anabledd neu unrhyw nodwedd warchodedig arall. Rydym yn recriwtio ac yn datblygu ein pobl yn seiliedig ar deilyngdod a'u hangerdd ac rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol ar gyfer pob gweithiwr.