Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei ddefnyddio. Rydym yn elusen ac yn deulu o saith amgueddfa genedlaethol a chanolfan gasgliadau, sydd wedi’u lleoli ledled Cymru.
Wrth i ni edrych i’r dyfodol, mae Amgueddfa Cymru yn newid – gyda’r nod o gyflawni strategaeth sy’n cael effaith ar bobl Cymru ac ymwelwyr i Gymru. Rydym yn gweithio'n hyderus er mwyn cysylltu pobl â stori Cymru. Rydyn ni’n canolbwyntio ar ofalu am y casgliad cenedlaethol a dod ag ef yn fyw, fel bod pawb yn gallu dod i ddod o hyd i’w lle eu hunain ynddo.
Mae'r Tîm Marchnata a Chyfathrebu yn gweithio mewn amgylchedd marchnata a chyfathrebu cyflym sy'n datblygu, sy'n gofyn am lefelau uchel o angerdd, egni a chynhyrchiant.
Fel Swyddog Marchnata Cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, byddwch yn gyfrifol am gyflwyno ymgyrchoedd marchnata arloesol, integredig ac effeithiol sy’n gyrru nifer yr ymwelwyr, gwerthiant tocynnau ac ymwybyddiaeth brand ar draws amrywiol sianeli er mwyn cyrraedd targedau ymwelwyr ac incwm.
Rydym yn chwilio am berson creadigol, uchelgeisiol a thalentog i helpu i ddod â’n gwaith, ein profiadau unigryw a’n straeon yn fyw. Bydd gennych brofiad profedig o ddatblygu a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata llwyddiannus sy'n ymgysylltu ag ystod eang o gynulleidfaoedd amrywiol.
Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad helaeth o greu cynnwys creadigol a deniadol ar gyfer gwahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol er mwyn cynyddu cyrhaeddiad ac ymgysylltiad. Bydd angen i chi hefyd ddangos sgiliau cyfathrebu ac ysgrifennu copi rhagorol, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Os ydych yn feddyliwr creadigol gydag angerdd am ddatblygu a rhannu straeon, a diddordeb yn y sector diwylliant, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.