Dyma gyfle cyffrous i rywun sydd â diddordeb brwd mewn dilyn gyrfa ym maes technoleg gwybodaeth a gweithio mewn canolfan gelfyddydau ffyniannus.
Mae hon yn rôl drawsadrannol yn y sefydliad, yn gweithio gyda Rheolwr Technoleg Gwybodaeth Chapter yn darparu cymorth rheng flaen gyda systemau technoleg gwybodaeth sy’n galluogi Chapter a’r Cwmni Masnachu i gael eu rhedeg yn llyfn.
Gweithio yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Technoleg Gwybodaeth a chefnogi’r sefydliad.