Mae Trac Cymru yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Marchnata sy’n siarad Cymraeg, i weithio’n rhan amser o swyddfa gartref.
Ein cenhadaeth yw datblygu celfyddydau perfformio gwerin Cymreig fel traddodiad byw, i’w rhannu a’i fwynhau gan gynulleidfaoedd a pherfformwyr ar bob lefel, yng Nghymru a ledled y byd, fel ei gilydd.
‘Rydym am roi’n gwaith cyfathrebu yn nwylo un unigolyn sydd yn gallu helpu sicrhau ein bod yn cyrraedd, ac yn siarad â’r, byd mewn ffordd effeithiol. Wedi datblygu Strategaeth Marchnata a Chyfathrebu ‘rydym yn chwilio am y person cywir i’n helpu ni ei rhoi ar waith.
Chi yw’r person a fydd yn cefnogi’r tîm rheoli ym mhob agwedd o’r gwaith marchnata. Yn gweithio o gartref, byddwch y gyfrifol am sicrhau bod y byd cyfan yn gwybod amdanon ni, ac am ein gwaith – gan ddefnyddio platfformau cymdeithasol a digidol, yn ogystal â’n helpu ni gyda chysylltiadau cyhoeddus a marchnata ein cynnyrch.
Cewch weld manylion y swydd ar ein gwefan (gweler y ddolen)
Os taw hwn yw’r cyfle ‘rydych wedi bod yn chwilio amdano, anfonwch CV a llythyr eglurhaol at Danny KilBride, ein Cyfarwyddydd, yn cyfarwyddydd@trac-cymru.org i esbonio pam taw chi yw’r person perffaith ar gyfer y rȏl.
Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus drwy ebost i drefnu cyfweliad.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Ddydd Llun, Rhagfyr 6ed, ond mae angen rhywun arnom ar frys mawr, felly byddwn yn dechrau cyfweld a phrofi sgiliau wrth i ni dderbyn ceisiadau da. Peidiwch ag oedi wrth gyflwyno’ch cais. Edrychwn ymlaen at glywed oddiwrthoch chi.
Os am sgwrs anffurfiol am y rȏl hon, cysylltwch â Danny KilBride, ein Cyfarwyddydd, yn y cyfeiriad ebost uchod.