Swyddog Cyfathrebu (Hyrwyddo)

Cyflog
Yn unol â phrofiad
Location
Canolfan S4C:Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ neu Swyddfa S4C, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH.
Oriau
Full time
Closing date
24.11.2020
Profile picture for user Swyddi S4C

Postiwyd gan: Swyddi S4C

Dyddiad: 11 November 2020

Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu (Hyrwyddo) i ymuno â'r tîm Cyfathrebu. Fel aelod o dîm byddwch yn gyfrifol am ddweud wrth y byd am raglenni, cynnwys a gwasanaethau S4C.

Byddwch yn defnyddio amrywiaeth o sgiliau a thechnegau i gyfleu negeseuon, denu gwylwyr a chynnal trafodaeth rhwng S4C a'i rhan-ddeiliaid.

Yn ogystal â meddu ar sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol mae profiad o weithio'n llwyddiannus ar ymgyrchoedd hyrwyddo yn ddymunol.

Manylion Eraill

Lleoliad: Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ neu Swyddfa S4C, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH.

Cyflog: Yn unol â phrofiad

Cytundeb: Parhaol ar ôl cyfnod prawf o 6 mis

Oriau Gwaith: 35.75

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: 26 diwrnod a gwyliau banc

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.Os byddwch yn ymuno â'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun.Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 17:00 yn y prynhawn ar ddydd Mawrth 24 Tachwedd 2020 i adnoddau.dynol@s4c.cymru neu'r Adran Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C:Yr Egin, Caerfyrddin SA31 3EQ.

Ni dderbynnir CV.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event